Mae Virginie Hartley yn arlunydd amryddawn ac yn ieithydd. Ganwyd a magwyd hi yng Nghorsica, astudiodd Siapanaeg a Saesneg yn Lyon. Denodd ei chariad at yr iaith Saesneg ar traddodiad peintio Prydeinig hi i Lundain i astudio darlunio. Mae bywyd artistig llwyddiannus yr wythdegau canol yn ffynhonnell ffrwythlon o ysbrydoliaeth iw portreadau o gerddorion, dawnswyr ac actorion. Maen creu portreadau, lluniadau a murluniau ar ystod eang o bynciau gan ddefnyddio cyfryngau traddodiadol. Mae ei phortreadaun cael eu peintio o fywyd neu o ffotograffau maen eu cymryd neu o frasluniau. Mae ei chleientiaid yn cynnwys y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Kodak ar Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Symudodd Virginie i Sir Fynwy ym 1993 ac mae bywyd yn Sir Fynwy yn cynnig ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth iddi. Bellach yn fam falch i ddau o fechgyn yn eu harddegau, maen dal i beintio a chreu gwaith celf digidol wedi ei gomisiynu, ynghyd â bod yn aelod gweithgar or gymuned leol.
Yn 2010 gofynnwyd iddi gynnig cyfeiriad artistig i grŵp o fyfyrwyr o Ysgol Gyfun Sir Fynwy. Cymerodd hwn ffurf murlun paentiedig ar thema Hawliaur plentyn. Enillodd eu hymdrechion wobr Cymru a gwobr rhanbarthol mewn cystadleuaeth a noddwyd gan y Cenhedloedd Unedig. Ym Mehefin 2011 roedd wrth ei bodd pan gafodd y cyfle i gyfrannu at beintio murlun arall yn yr ysgol.
Rwyf wrth fy modd yn arsylwi ar bobl a rhannu fy mwynhad or hyn sydd om hamgylch drwy ddefnyddio pa gyfrwng bynnag syn ymddangos fwyaf priodol. Mae hefyd yn ffynhonnell o bleser mawr i mi rannu fy ngwybodaeth am Gelf a Ffrangeg â dysgwyr eraill o bob oed a chefndir.
I weld enghraifft oi gwaith ac o gomisiynu gwaith celf, ewch iw gwefan:
website link
Useful Information
Owner/Manager: Oak Grove Studios
News & Special Offers
Opening Times
Virginie Hartley Statistics: 19 click throughs, 341 views since start of 2024