David J Young

“Mae fy ngwaith yn cynnwys tirweddau yn bennaf, yn enwedig golygfeydd yn ne Cymru; Gŵyr a Sir Benfro yn arbennig.

“Mae fy ngwaith yn cynnwys tirweddau yn bennaf, yn enwedig golygfeydd yn ne Cymru; Gŵyr a Sir Benfro yn arbennig. Arferais ddefnyddio dyfrlliw yn gyfan gwbl, ond erbyn heddiw rwy’n defnyddio acrylig, ac ymhlith pethau eraill rwyf yn creu paentiadau mwy o faint gan roi cynnig weithiau ar arddull mwy rhydd, mwy haniaethol eu cymeriad.

Yn ddiweddar rwyf wedi dechrau ymddiddori mewn creu printiau, a hynny o ganlyniad mynychu cwrs a oedd yn cynnwys colograff, sychbwyntiau, ysgythru, torluniau leino a phrintio sgrin yn y maes llafur. Mae ystod y posibiliadau technegol yn hynod ddiddorol ac rwyf dal i ddarganfod yr hyn y gellir ei wneud. Mae’n hyfrydwch pur.”

Useful Information

David J Young

Owner/Manager: David Young

38 Abergavenny Road Usk Monmouthshire NP15 1SB United Kingdom
phone: 01291 672950 fax:

News & Special Offers

Opening Times

David J Young Statistics: 0 click throughs, 335 views since start of 2024

© copyright 2024 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community