Celtic Eye Photography

Bûm yn tynnu ffotograffau o amrywiol destunau am dros ddeng mlynedd ar hugain.

Bûm yn tynnu ffotograffau o amrywiol destunau am dros ddeng mlynedd ar hugain. Fy hoff gyfrwng yw monocrom, a hynny gan ddefnyddio camera Leica M, ond yn ddiweddar, gyda’r cyfrwng digidol ar gynnydd, rwy’n tynnu mwy o ddelweddau mewn lliw.

Cefais fy nylanwadu’n bennaf gan y diweddar Henri Cartier Bresson a James Ravilious, y ddau yn feistri yn y maes ffotograffiaeth ddogfennol yn defnyddio’r camera Leica M.

Rwy’n ffodus iawn fy mod wedi byw yn hyfrydwch Sir Fynwy am y mwyafrif o’m mywyd. Bu’r dirwedd gyfoethog, amrywiol a’i phobl yn ysbrydoliaeth i’m ffotograffiaeth, ac yn wir maent yn parhau i fod heddiw.

Dros y blynyddoedd, cafodd nifer o fy ffotograffau eu harddangos yn arddangosfa flynyddol y Leica Postal Portfolios, cafwyd peth llwyddiant hefyd yng nghystadleuaeth print blynyddol Cymdeithas Leica, ac ymddangosodd rhai yn llyfr blynyddol Creative Monochrome, yng nghyhoeddiad Liberty and Livelihood a hefyd yn ‘Salon Rhyngwladol Abertawe’.

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar brosiect ffotograffau cyfredol sy’n cofnodi bywyd yng nghefn gwlad Sir Fynwy. Bydd y ffotograffau ar gyfer y prosiect hwn mewn monocrom yn gyfan gwbl.

Useful Information

Celtic Eye Photography

Owner/Manager: Robert K Hughes LRPS

Somerley, Castle Road Raglan Monmouthshire NP15 2JZ United Kingdom
phone: 01291 690472 fax:

News & Special Offers

Opening Times

Celtic Eye Photography Statistics: 21 click throughs, 384 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community