Anthony M Skates

Mae fy ngwaith yn ddehongliad modern o dirwedd Sir Fynwy yn bennaf a Chymru a'r Gororau yn gyffredinol.

Mae’r gwaith ar ffurf delweddau sy’n adlewyrchu ffurf a lliw newidiol y dirwedd leol. Mae’r fath bwyslais ar yr amgylchedd naturiol yn amlwg iawn yn fy ngwaith parhaus i gipio delwedd y fforestydd yn Nyffryn Gwy Isaf. Thema allweddol bellach o fewn fy ngwaith yw’r berthynas â’r cyfoeth o olion hanesyddol ac archeolegol sydd i’w gweld yn Sir Fynwy, a’u perthynas a’u lle hwythau o fewn yr amgylchedd lleol.

Mae’r paentiadau yr wyf yn eu creu yn nodedig am eu defnydd o liw cyfoethog ac ymdeimlad o le a’r modd y maen nhw’n archwilio lleoliadau mor ddyfal drwy gyfresi o luniau.

Useful Information

Anthony M Skates

Owner/Manager: Anthony Skates

Swyn Yr Afon, The Freedom Llandogo Monmouthshire NP25 4TP United Kingdom
phone: 01594 530544 fax:

News & Special Offers

Opening Times

Anthony M Skates Statistics: 0 click throughs, 227 views since start of 2024

© copyright 2024 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community