Caiff fy ngwaith ei ysbrydoli gan yr hyn rwyn ei weld ac yn ei brofi om cwmpas wrth gerdded yn lleol yn Sir Fynwy ar Mynydd Du, a phan welaf bethau syn cynnau fy nychymyg ar fy nheithiau. Rwyf bob amser yn cario fy nghamera gyda mi ynghyd â llyfr brasluniau a phensil; rwyf yn eu defnyddio fel sail im gwaith pan ddychwelaf adref.
Mae llawer om gwaith yn seiliedig ar ddarlunio ag edeifion, weithiau ar gefndir wedii lifo neui beintio, gan bwytho â pheiriant ac yna ychwanegu gwaith pwytho â llaw, gleiniau a phethau y cefais hyd iddynt.
Rwyf wedi creu coleri, ar Ôl gweld gemwaith cynnar mewn amgueddfeydd, sydd wediu haddurno mewn sawl ffordd ag amrywiaeth o gyfryngau. Yn fwy diweddar, ysbrydolwyd fy ngholeri yn dilyn ymweliad ag Ynysoedd y Galapagos ble gwelais igwanaod gwrywn ymladd.
Maer colerin croesi ffiniau brodwaith, gemwaith a chelfyddyd gain, maent yr un mor hardd yn cael eu gwisgo neu eu crogi ar wal.
Useful Information
Owner/Manager: Anna Tucker
News & Special Offers
Opening Times
Anna Tucker Statistics: 0 click throughs, 77 views since start of 2025