Wainfield Pottery

Rwy'n creu llestri crochenwaith pwrpasol ac addurnol â llaw mewn stiwdio cerameg fechan ger Brynbuga.

Rwy’n creu llestri crochenwaith pwrpasol ac addurnol â llaw mewn stiwdio cerameg fechan ger Brynbuga. Yr hyn a greodd gryn ddylanwad arnaf oedd crochenwaith yr hen Tsieina a Japan, a’r hen grochenwyr crefft ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ym Mhrydain.

Rwy’n defnyddio clai gwlyb neu ‘slip’ gwyn i addurno; ocsidau i ychwanegu lliw i’r gwaith ac rwyf yn ei orchuddio â gwydredd clir, coch a llwydwyrdd.

Rwyf wedi bod wrthi yn creu llestri ers i mi gael hyfforddiant sylfaenol yn yr ysgol lle’r oeddwn yn ffodus iawn i gael athro ysbrydoledig. Yn ddiweddarach cefais gymorth ac anogaeth gan ddarlithwyr coleg, a’r cyfle i fanteisio ar wybodaeth a chefnogaeth crochenwyr eraill yn Ne Cymru.
Rwy’n arddangos yn yr ardal, ac mae yna gyfle i weld fy ngwaith drwy apwyntiad. Rwyf hefyd yn gwneud eitemau i gomisiwn.

Useful Information

Wainfield Pottery

Owner/Manager: Steve Hoselitz

Wainfield Farm, Wainfield Lane Gwehelog, Nr Usk Monmouthshire NP15 1RG United Kingdom
phone: 01291 671444 fax:

News & Special Offers

Opening Times

Wainfield Pottery Statistics: 1 click throughs, 52 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community