Llwyddodd Fabulous Fish i gyrraedd Rownd Derfynol Gwobrau Bwyd MÔr 2009 a gynhaliwyd yn Sgwâr Grosvenor Llundain! Cyflwynwyd y gwobrau am y tro cyntaf yn 2005 gan Seafish, awdurdod pennaf y DU ar fwyd mÔr, i gydnabod rhagoriaeth ac i hyrwyddo arferion cynaliadwy ar draws y diwydiant bwyd mÔr. Maer gwobrau Bwyd MÔr bob amser yn denu ymgeiswyr o safon uchel ac maer buddugwyr eleni wedi profi nad eithriad mo hynny.
Cychwynnwyd Fabulous Fish gan y perchennog, Sarah OConnor a bun cystadlu yn y categori Hyfforddiant a Datblygu yn erbyn yr archfarchnad anferthol Asda. Daeth Sarah yn ail i Asda ond mae ei champ anhygoel Sarah yn dangos cymaint yw ei hymroddiad i ansawdd ei chynnyrch a pha mor awyddus yw Sarah i sicrhau bod ei chwsmeriaid yng Nghas-gwent a Mynwy yn cael y bwyd mÔr gorau un.
Yn y seremoni, dywedodd Charles Howeson, Cadeirydd Gwobrau Bwyd MÔr, Dymar Gwobrau Bwyd MÔr mwyaf llwyddiannus ers eu sefydlu yn 2005, gyda thros 170 o ymgeiswyr yn y pedwar categori ar ddeg syn arwydd or fenter ar uchelgais syn bodoli yn y diwydiant heddiw.
Dywedodd Sarah ei bod wrth ei bodd gydai llwyddiant yn rownd derfynol y gystadleuaeth ond y tro nesaf ei gobaith yw cyrraedd y brig. Ychwanegodd Sarah ei bod wedi cael cefnogaeth anhygoel gan ei chwsmeriaid ac maen credu bod hyn yn ganlyniad ir ffaith ei bod yn mynnu cael bwyd mÔr or ansawdd gorau o ffynonellau cynaliadwy gan ei chyflenwyr, au bod nhwn deall bod ei chwsmeriaid am brynur cynnyrch mwyaf ffres ar stepen y drws.
Mae Sarah yn barod i gael sgwrs gyda chi am eich hoff bysgod ac i roi syniadau newydd ar ddulliau gwahanol o goginio fel a ganlyn:
Marchnad Trefynwy; Sadwrn 9am - 4pm
Regents Yard Lydney; Mercher 9am - 2pm
Beaufort Square, Cas-gwent; Iau/Gwener 9am - 2pm
Tyndyrn; 4ydd dydd Sadwrn o bob mis 9.30am-1pm
Cludiant ir cartref ar gael nawr yn Sir Fynwy! Cysylltwch â Sarahn uniongyrchol am fanylion.
Useful Information
Owner/Manager: Sarah O'Connor
News & Special Offers
Opening Times
- Marchnad Trefynwy; Sadwrn 9am-4pm
- Regents Yard Lydney; Mercher 9am-2pm
- Beaufort Square, Cas-gwent; Iau/Gwener 9am-2pm
- Tyndyrn; 4ydd dydd Sadwrn o bob mis 9.30am-1pm
Fabulous Fish Statistics: 6 click throughs, 75 views since start of 2025