Townsend Designs

Rydym yn dylunio ac yn cynhyrchu planwyr gardd pwrpasol ynghyd â dodrefn awyr agored â dulliau, technegau a sgiliau gwaith saer traddodiadol sy'n prysur ddiflannu.

Rydym yn dylunio ac yn cynhyrchu planwyr gardd pwrpasol ynghyd â dodrefn awyr agored â dulliau, technegau a sgiliau gwaith saer traddodiadol sy’n prysur ddiflannu. Sgiliau sydd wedi gwasanaethu dyn yn dda dros gannoedd o flynyddoedd, ac sy’n haeddu parhau yn y dyfodol.

Rydym yn ymfalchïo mewn crefftwaith o safon, a sicrheir hynny yn ein gweithdy sydd wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – mae’r lle hwn hefyd yn ysbrydoli ein dyluniadau.

Weithiau ceir ysbrydoliaeth o’r mannau y treuliodd y pren ei fywyd, a defnyddir dylanwadau pensaernïol adeiladau hanesyddol lleol yn ein gwaith dylunio. Rydym yn credu’n daer y gall defnyddio deunyddiau lleol sicrhau gostyngiad sylweddol yn y tanwydd a ddefnyddir i gludo deunyddiau a’r effaith ar adnoddau coed y byd sydd o dan fygythiad, ac ar yr un pryd, gellir mynd ati i greu pethau hardd a defnyddiol fydd yn para am flynyddoedd. Cydnabuwyd ein rhinweddau “gwyrdd” â’r wobr fusnes a gawsom yn ddiweddar.

Useful Information

Townsend Designs

Owner/Manager: Helen Powell

Beili Glas Cottage, Llanellen Abergavenny Monmouthshire NP7 9HS United Kingdom
phone: 01873 857008 / 07928 790889 fax:

News & Special Offers

Opening Times

Townsend Designs Statistics: 14 click throughs, 227 views since start of 2024

© copyright 2024 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community