Gitarau, iwcalilis ac offerynnau gwerin wediu gwneud â llaw o bren cynaliadwy neu wedii adfer, lle bynnag y bon bosibl.
Roedd yn anochel mai gwneud gitarau y byddwn, rhwng fy niddordeb yn y gitâr ar ffaith fy mod wastad wedi mwynhau gwneud pethau o bren! Astudiais dechnoleg offerynnau cerddorol yn Llundain ond roedd yn well gennyf ddychwelyd i gefn gwlad Sir Fynwy i arfer fy nghrefft a bellach rwyn adeiladu ac atgyweirio gitarau arbennig ac offerynnau cribellog eraill
Rwyn gwneud gwaith â comisiwn a gallaf lunio gitâr o unrhyw seinbren, ond o brofiad credaf fod rhai coed yn fwy addas yn weledol, yn foesegol ac o ran acwsteg. Mae gan lawer om gitarau, seinfwrdd a chyplysnod o Ffynidwydden Ewropeaidd gyda choeden gnau Ffrengig ar gyfer y corff mae lliw siocled cryf y goeden gnau Ffrengig yn ychwanegu at brydferthwch gweledol yr offeryn ac mae ganddo briodweddau acwstig ardderchog. Rwyn defnyddio coed cynhenid lleol, ble bynnag y bo hynnyn bosibl.
Mae pob offeryn yn cael ei wneud â llaw yn Ôl gofynion y cwsmer o ran chwarae a chynlluniau esthetig ac maer cynnyrch gorffenedig yn offeryn unigryw o waith crefft cywrain gydag ansawdd tÔn cyfoethog.
Gitarau acwstig a thrydan, iwcalilis ac offerynnau gwerin
Useful Information
Owner/Manager: Richard Meyrick
News & Special Offers
Opening Times
Richard Meyrick Guitars Statistics: 0 click throughs, 337 views since start of 2024