Croen o ddefaid sydd wediu magu dan drefn naturiol yng nghefn gwlad hyfryd Sir Fynwy a ddefnyddir i gynhyrchu ein Golden Lamb Rugs. Mae meithrin bywyd gwyllt ar ein tir yn elfen hanfodol on ffermio: nid oes dim or chwynladdwyr, plaladdwyr nar deunyddiau gwrthfiotig arferol yn cael eu defnyddio, ac rydym yn cydymffurfio â safonau Organig llym y Gymdeithas Bridd.
Caiff y crwyn eu trin yn lleol yn Ôl safonau Demeter (Bio-ddynamig, heb gemegau), gyda deunyddiau llysieuol. Maer broses ofalus hon yn cadw sbonc naturiol y cnu, a sicrhau haenen o swêd cryf. Mae crwyn gyda chnu byr a sidanaidd yn addas ar gyfer crud neu stafell wely babi bach, tra bo rhai cryfach yn glyd iw rhoi mewn cadair, ar wely, ar lawr, mewn car ac ar gyfer gwersylla. Mae gan bob un ei gymeriad unigryw ei hun. Maint cyfartalog: 1m x 0.7m. Hufen yw lliwr cnu fel arfer, sydd weithiaun aeddfedu i liw aur, yn enwedig mewn golau cryf. Mae cnuau tywyllach prin a diddorol hefyd ar gael. Gellir golchir crwyn mewn peiriant golchi ar raglen ysgafn.
Useful Information
Owner/Manager: James and Mary Yule
News & Special Offers
Opening Times
Yule Organic Sheepskins Statistics: 3 click throughs, 73 views since start of 2025