canolfan goed Wentwood

Mae Canolfan Goed Wentwood yn cadw a chyflenwi rhywogaethau brodorol o bren caled wedi'i lifio i'r diwydiant adeiladu a chrefftwyr gorffennu coed.

Mae Canolfan Goed Wentwood yn cadw a chyflenwi rhywogaethau brodorol o bren caled wedi’i lifio i’r diwydiant adeiladu a chrefftwyr gorffennu coed. Mae modd olrhain tarddiad y coed sy’n dod o goetiroedd cynaliadwy lleol. Gall y pren gael ei gyflenwi fel pren gwyrdd, awyr-sych, odyn-sych neu wedi ei drin â gwres. Mae’r coed sydd ar gael yng Nghanolfan Goed Wentwood yn cynnwys coed Ffawydd, Ffawydd â Rhigolau, Gwern, Derw, Derw Coch, Derw Bythwyrdd, Derw Gweog, Pisgwydd, Castanwydd Melys, Ynn, Bedw, Sycamorwydd, Ceirioswydd, Llwyf a Masarn.

Mae Canolfan Goed Wentwood sy’n cael ei rheoli gan Gyngor Sir Fynwy gyda chymorth gweithredol gan 'Coed Cymru' wedi ei lleoli yng nghanol Fforest Wentwood. Ffoniwch y ganolfan i drafod unrhyw bren caled sydd angen arnoch, neu os hoffech dderbyn rhestr fisol o’u stoc drwy e-bost.

Ar gael:
Cliciwch i anfon e-bost

Useful Information

canolfan goed Wentwood

Owner/Manager: Mike Powell

Wentwood Llanvaches, Cil-y-coed Monmouthshire NP26 3AZ United Kingdom
phone: 01633 400720 fax:

News & Special Offers

Opening Times

canolfan goed Wentwood Statistics: 0 click throughs, 104 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community