Susie Vaughan

Rwy'n casglu deunyddiau ar gyfer fy masgedi wrth gerdded cefn gwlad Cymru bob dydd - mae hyn yn ysbrydoliaeth gyson.

Rwy’n casglu deunyddiau ar gyfer fy masgedi wrth gerdded cefn gwlad Cymru bob dydd – mae hyn yn ysbrydoliaeth gyson. Mae lliw a gwead yn hollbwysig; nid yw’r prennau’n cael eu lliwio - daw’r amrywiaeth o liwiau o risgl naturiol y gwahanol goed.

Dechreuais greu basgedi fel hobi ond fe dyfodd yr awydd wrth i mi ddysgu mwy am y cyfoeth o ddeunyddiau naturiol lliwgar o wead amrywiol sy’n tyfu mewn perthi, coedwigoedd a gerddi. Mae pob basged yn rhoi ail fywyd i’r domen o docion blynyddol - ‘sbwriel’ byd natur - a fyddai’n cael ei daflu i ffwrdd fel arall.

Rwyf hefyd yn gwneud bagiau ffelt a chrogluniau o gnu lleol gan ei gyfuno â darnau hynod o froc mÔr, gwyddfid ac iorwg i greu gweithiau unigryw o gelf naturiol. Ym 1994 cyhoeddwyd fy llyfr "Handmade Baskets" gan Search Press.

Ar gael yn:
dolen y wefan
01291650227
Crefft yn y Bae, Caerdydd
dolen y wefan

Ar gael: gydol y flwyddyn

Useful Information

Susie Vaughan

Owner/Manager: Susie Vaughan

Llansoy House, Llan-soe Brynbuga Monmouthshire NP15 1DF United Kingdom
phone: 01291 650227 fax:

News & Special Offers

Opening Times

Susie Vaughan Statistics: 12 click throughs, 222 views since start of 2024

© copyright 2024 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community