Mae lliw, patrwm a gwead yn nodweddion pwysig o frethyn Gwehyddion Sioni Rhys. Mae eu Carthenni traddodiadol yn seiliedig ar y diwylliant o dechnegau gwehyddu Cymreig ond bob amser gyda gwedd gyfoes. Maent yn addasu agweddau dylunio a ddefnyddiwyd gan yr hen felinau i gynhyrchu Carthenni hardd sydd bellach yn cael eu trysori gan genhedlaeth newydd. Mae eu detholiad o garthenni a ysbrydolwyd gan hen Felin Gwenffrwd ar Ystâd Llanofer yn Sir Fynwy yn enghraifft o gynildeb a dyluniad syn nodweddur brethyn Cymreig.
Dan ddylanwad lliwiau tirwedd ddramatig y llechwedd gyferbyn â Stiwdio Mynydd Du, yn ogystal âu cynnyrch ar gyfer y cartre mae ganddynt ddetholiad o ategolion ffasiwn o ddeunyddiau moethus; maent yn chwilio bob amser am edafedd syn creu deunyddiau meddal syn wledd ir llygad.
Ar gael:
Oriel Grefftau Court Cupboard, Y Fenni
Crefft yn y Bae, Caerdydd
Oriel Waterford, Aberdaugleddau
Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Llandysul
Ar gael gydol y flwyddyn
Useful Information
Owner/Manager: Stuart Neale
News & Special Offers
Opening Times
gwehyddion Sioni Rhys Statistics: 29 click throughs, 398 views since start of 2025