Rwyn ddigon ffodus i gael gweithdy yn fy ngardd syn lleoliad tawel, ysbrydoledig yn Nyffryn Gwy. Rwyf yn dylunio a chreu gemwaith arian trwy grosio gwifrau arian main iawn au cyfuno â gleiniau gwydr. Rwyn llunio clustdlysau, broetshys, mwclis ac addurniadau wal. Mae rhai or darnaun cynnwys gwydr or mÔr, y cefais hyd iddo wrth chwilota ar y traeth. Rwyf hefyd yn hoff iawn o ddefnyddio perlau naturiol a gleiniau gwydr.
Yn ogystal â gemwaith arian, rwyf hefyd yn creu darnau enamlog ac yn cynnwys rhywfaint o enamel yn fy ngwaith. Mae lluniau plant yn fy ysbrydoli ac wrth greur darnau enamlog syn seiliedig arnynt, credaf fy mod yn llwyddo i ddal y naturioldeb syn bresennol yn eu lluniau hyfryd. Dwin hoff iawn o gael comisiwn syn cynnwys llun gan blentyn a all fy nhywys i greu darn o waith personol ac unigryw.
Ar gael:
River of Silver, Brockweir
01291 689792
Ffeiriau crefft lleol
Useful Information
Owner/Manager: Lynn Williams
News & Special Offers
Opening Times
River of Silver Statistics: 0 click throughs, 57 views since start of 2025