Bu Lynn yn dylunio a chreu gemwaith arian ers symud i Ddyffryn Gwy ac mae harddwch yr ardal oi chwmpas yn ffynhonnell gyfoethog o ysbrydoliaeth drwyr flwyddyn gron, or rhedyn ifanc yn y gwanwyn ir dail crin ar lawr y coetir yn yr hydref.
Mae Lynn yn creu clustdlysau, mwclis, breichledi a modrwyau arian, ac mae ei gwaith yn adlewyrchu ei diddordeb mewn ffurfiau naturiol a phatrymau ailadroddus. Maer gwahanol ddulliau o drin arian - gofannu, morthwylio, ai weadu hefyd yn golygu y gall Lynn greu amrywiaeth ddi-ben-draw o ffurfiau organig a haniaethol.
Yn aml, bydd hin defnyddio perlau dŵr croyw neu emau lled-werthfawr yn ei gwaith. Mae ei gemwaith yn drawiadol ac yn denur llygad, er hynny, maen gywrain ac yn hawdd iw wisgo.
Ar gael
Parkfields Gallery, Ross-on-Wye
website link
ArtShed, New Milton, Hants
01425 620011
Useful Information
Owner/Manager: Lynn Clarke
News & Special Offers
Opening Times
Lynn Kirsten Clarke Statistics: 10 click throughs, 62 views since start of 2025