Yr hyn syn fy ysbrydoli ac yn dylanwadu arnaf yw fy hoffter o arddio, cyfuniadau o flodau llachar ar lliwiau a welwn on cwmpas ym myd natur. Dwin defnyddio siâp y galon yn rheolaidd fel symbol ar gyfer pethau byw, ar lliwiau ar blodau i bortreadur ardd ar wahanol adegau or dydd ar tymhorau.
Mae fy ngemwaith yn gweddun dda i ferched, ac mae pob darn wedi ei gynllunion unigol ai greu fel bod pob un yn unigryw. Rwyn defnyddio llawer o wahanol ddeunyddiau i greur gemwaith ond yn bennaf dwin gwnïo a gweu'r darnau gyda defnyddiau a gwlanoedd hen a newydd syn cael eu rhoi at ei gilydd gyda gleiniau, botymau, rhubanau, hen ddarnau o emwaith a lledr. Dwin hoffir syniad o roi ail fywyd i hen drugareddau.
Ar gael:
The Court Cupboard Gallery, Llandeilo Bertholau
Oriel Gallery, Crucywel
Form Gallery, Blaenafon
Ar gael gydol y flwyddyn
Useful Information
Owner/Manager: Louise Lovell
News & Special Offers
Opening Times
Louise Lovell Jewellery welsh Statistics: 7 click throughs, 60 views since start of 2025