Rwyf wedi byw yn Sir Fynwy ers nifer o flynyddoedd. Yn ystod yr amser hwn mae cefn gwlad wedi bod yn ysbrydoliaeth gyson i mi. Bydd y syniadau cyntaf ar gyfer fy ngemwaith yn dod o bethau naturiol, lleol y byddaf yn eu casglu, tynnu ffotograffau ohonynt au lluniadu. Mae fy ngwaith wedi cael ei ysbrydoli gan ddarn o risgl, carreg â gorchudd o gen neu ddeilen wedi ei bwyta gan bryfed. Maer gemwaith yn ceisio dangos cydbwysedd rhwng ffurfiau syml a phatrymau a gweadau cymhleth a chyfoethog gan osod arian ochr yn ochr ag alwminiwm wedi ei anodeiddio sydd wedi ei brintio ai liwio. Mae alwminiwm yn gallu cynhyrchu lliwiau hynod gyfoethog gyda lliw ac arwyneb y metel yn newid drwy gydol y broses brintio. Ni ellir rhagweld y darn gorffenedig ac maer amrywiadau cynnil syn digwydd yn naturiol yn golygu bod pob darn yn unigryw.
Ar gael:
Bowle and Hulbert, Y Gelli,
Parkfields gallery, Ross-on-Wye; FfÔn: 01989 565266
Great Atlantic Art Gallery: FfÔn: 01600 714527
Ar gael gydol y flwyddyn
Useful Information
Owner/Manager: Julia Green
News & Special Offers
Opening Times
Julia Green Statistics: 0 click throughs, 403 views since start of 2024