Mae Jan yn creu lamplenni, clustogau, dillad gwely, llenni a bleinds wedi eu teilwra yn arbennig ar gyfer ei chleientiaid i gyd-fynd ag addurniadau presennol eu cartref. Mae cael lamplen bwrpasol yn rhoi gwedd orffenedig ir ystafell. Gellir adfer hen ffrâm ai hail-orchuddio neu greu rhywbeth cwbl newydd.
Mae Jan yn mwynhau gweithio gyda chleientiaid i greu darnau trawiadol a hynod, ac maen hoffir syniad o ddefnyddio defnydd a fframiau a fyddai fel arall wedi eu rhoi or neilltu. Defnyddiodd sidan o ffrog briodas ei chleient i greu lamplen iw rhoi wrth ochr y gwely, gan greu darn unigryw ag iddo hanes arbennig.
Mae Jan yn cael ysbrydoliaeth o nifer o ffynonellau harddwch naturiol ei hamgylchedd a llawer o gyfryngau cyfoes, yn ogystal â chynlluniau ar ddefnyddiau hen a newydd, ac maen mwynhau creu ategolion prydferth ac ymarferol.
Ar gael: Cysylltwch â Jan gydach ceisiadau
Useful Information
Owner/Manager: Jan Woodhouse
News & Special Offers
Opening Times
Jan Woodhouse Statistics: 0 click throughs, 64 views since start of 2025