Rwyf wedi byw yn Nhrefynwy ers 12 mlynedd ac mae fy ngweithdyn edrych allan dros fryniau ponciog hyfryd Dyffryn Gwy. Dyma ble byddaf yn treulio fy amser yn creu cerfluniau gwydr haniaethol wediu hodyn-danio. Gweithiais yn y diwydiant Fferyllol am fwy nag 20 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn roeddwn yn grochenydd yn fy amser hamdden. Yn 2006 gadewais i ganolbwyntion llawn amser ar fy ngherflunio.
Rwyn gweithio gyda gwydr a chlai, ac mae hyn yn rhoi cyfle imi archwilio cyfuniadau posib or ddau ddeunydd. Mae sawl ffynhonnell yn dylanwadu ar fy ngwaith - hen a newydd, sef y bryniau ar tirlun tonnog a gofiaf om plentyndod yn yr Alban, y golygfeydd om gweithdy, fy nghefndir gwyddonol am gwaith bywlunio. Rwyn awyddus iawn i arbrofi ac i wthior ffiniau o ran yr hyn syn bosib gyda gwydr wedii greu mewn odyn gan ddefnyddior clai i wneud y mowldiau a gweadau arwyneb anghyffredin sydd wedyn yn cael eu gweddnewid i greur cerflunwaith gwydr gorffenedig.
Ar gael:
The Great Atlantic Gallery, Trefynwy
website link
Gallery 54, Ross on Wye
website link
Useful Information
Owner/Manager: Isabel Mitchell
News & Special Offers
Opening Times
Isabel Mitchell Statistics: 7 click throughs, 57 views since start of 2025