Glass2Di4

Dechreuais weithio â gwydr i gyd-fynd â'm gyrfa hynod brysur. Mae'n waith diddorol a chyffrous iawn.

Dechreuais weithio â gwydr i gyd-fynd â’m gyrfa hynod brysur. Y mae'n waith diddorol a chyffrous iawn ac mae fy ngwerthfawrogiad o hyblygrwydd y gwydr fel cyfrwng wedi datblygu wrth i mi arbrofi gyda gwahanol brosesau.

Rwy’n mwynhau gweithio gyda gwydr cynnes sy’n golygu dylunio a thorri’r gwydr, wedyn ei doddi, ei ailffurfio a’i ail-siapio yn yr odyn ar dymheredd tua 800 °C. Mae modd creu siapau a ffurfiau drwy gynnwys copr ac alwminiwm rhwng yr haenau o wydr.

Mae fy arddull yn amrywio’n fawr, o batrymau geometrig strwythurol sy’n dangos lliwiau bywiog trawiadol y gwydr; i ddarnau mwy organig sy’n adlewyrchu’r siapau a’r patrymau sydd i’w gweld ym myd natur. Mae cefn gwlad Sir Fynwy yn ysbrydoliaeth ddelfrydol ar gyfer fy ngweithiau naturiol; o’r clytwaith o gaeau pleth, i risgl coed hynafol neu batrymau brith y cysgodion.

Ar gael:

Atlantic gallery, Trefynwy

Ffeiriau Crefft

Useful Information

Glass2Di4

Owner/Manager: Diana Philipson

Crocadwr, Welsh Newton Trefynwy Monmouthshire NP25 5RY United Kingdom
phone: 01989 110227 fax:

News & Special Offers

Opening Times

Glass2Di4 Statistics: 0 click throughs, 72 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community