Fiona Cran Jewellery

Dechreuais fel dylunydd gemwaith ar Ôl astudio am dair blynedd yng Ngholeg Gemwaith Birmingham. Treuliais dros ddeng mlynedd cyn hynny yn gweithio fel prif gogydd yng Nghanolbarth Lloegr.

Symudais i Drefynwy bum mlynedd yn Ôl ac mae pensaernïaeth gain y dref a harddwch naturiol yr ardal wledig o’m cwmpas yn ffynonellau cyson i’m hysbrydoli.

Mae’r afonydd yn ddylanwad allweddol ar fy ngwaith. Rwy’n ceisio adlewyrchu patrymau a gweadau hyfryd y creigiau a’r cerrig, a’r ffordd y maent yn effeithio ar rediad y dŵr. Mewn rhai darnau, rwy’n hoff o gyfuno’r effeithiau dyfriog hyn gyda ffurf a siâp strwythurol, syml, sy’n adlewyrchu fy hoffter o nodweddion pensaernïol.

Rwy’n gweithio’n bennaf gydag arian, perlau, dur, aur a cherrig lled-werthfawr.

Ar gael:
The Court Cupboard, Y Fenni – FfÔn:01873 852011

Bridge Gallery, Trefynwy – FfÔn: 07779 102017

Galanthus Gallery, Wormbridge, Henffordd – FfÔn: 01981 570506

Useful Information

Fiona Cran Jewellery

Owner/Manager: Fiona Cran

10 Troy Gardens Trefynwy Monmouthshire NP25 5DB United Kingdom
phone: 01600 772140 / 07789 851600 fax:

News & Special Offers

Opening Times

Fiona Cran Jewellery Statistics: 4 click throughs, 66 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community