Feathertree

Mae Rebecca'n gynllunydd crosio sy'n gweithio o'r Fenni.

Mae Rebecca yn gynllunydd crosio sy’n gweithio o’r Fenni. Mae’n creu eitemau fel hetiau, sgarffiau, siolau a menig a hefyd yn cynhyrchu ei chyfres ei hun o batrymau gwreiddiol. Mae ei chynlluniau’n rhai cyfoes ond mae ganddynt apêl oesol.
Mae cynaliadwyedd yn bwysig i Rebecca ac yn dylanwadu ar bob agwedd ar ei gwaith. Mae’r mwyafrif o’i deunyddiau’n rhai lleol ac mae’n hoff o ddefnyddio gwlân o fridiau prin yn ei chynlluniau. Mae hefyd wrth ei bodd yn gweithio gydag edafedd Alpaca ac mae wedi datblygu cyfres o batrymau sy’n addas i’r edafedd moethus hwn.

Bu’n gweithio ym maes Archeoleg ac Archifau, ac mae ganddi felly ddiddordeb mawr yn y gorffennol yn enwedig celf ffibr hynafol. Yn ogystal â chrosio, mae Rebecca’n troelli ac yn llifo edafedd yn naturiol gan ddefnyddio deunyddiau llifo traddodiadol fel madr ac asio.

Ar gael:
website link
website link
Ffeiriau Crefft (gweler dolen y wefan am y rhestr)

Useful Information

Feathertree

Owner/Manager: Rebecca Jackson

20 Ross Road Y Fenni Monmouthshire NP7 5LT United Kingdom
phone: fax:

News & Special Offers

Opening Times

Feathertree Statistics: 0 click throughs, 72 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community