Farberglass

Mae Cathy Farber wedi bod yn gweithio gyda gwydr ers iddi symud i dde Cymru yn 2002.

Mae Cathy Farber wedi bod yn gweithio gyda gwydr ers iddi symud i dde Cymru yn 2002. Mae amgylchedd lleol Cathy yn ysbrydoliaeth bwysig i’w gwaith, gan ddylanwadu ar ei defnydd o liwiau a siâp ei darnau.

Ers cael odyn, mae Cathy wedi mentro i fyd gwydr poeth. Dyma agwedd fwy arbrofol sy’n rhoi cyfle i Cathy ddylanwadu ar y darn gorffenedig yn hytrach na’i rheoli; mae hi’n gwthio ffiniau’r gwydr a’r odyn i’r eithaf, gan greu gwahanol effeithiau yn Ôl y tymheredd a’r amser y cymer y darnau yn yr odyn, gan greu darnau hollol unigryw. Dywed Cathy fod pob darn llwyddiannus yn deillio o dorri rheolau ac ar brydiau, torri gwydr!

Mae Cathy yn mwynhau’r cyfle i weithio gyda chleientiaid drwy waith comisiwn i greu darnau arbennig, ac mae hi hefyd yn cael boddhad mawr wrth addysgu ei chrefft yn ei stiwdio ym Mhenallt.

Ar gael:
Atlantic Gallery, Trefynwy
Lane End Cottage Studio, Penallt. FfÔn: 01600 860476

Useful Information

Farberglass

Owner/Manager: Cathy Farber

Lane End Cottage Tregagle, Penallt, Trefynwy Monmouthshire NP25 4RY United Kingdom
phone: 01600 860476 fax:

News & Special Offers

Opening Times

Farberglass Statistics: 0 click throughs, 86 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community