Mae Chris Goodgame yn gweithio yn ei weithdy bach yn Sir Fynwy, yn dylunio a chreu darnau ymarferol a deniadol o waith metel ar gyfer y cartref ar ardd.
Mae Chris yn defnyddio dur yn bennaf ac yn cynhyrchu eitemau defnyddiol a chwaethus o waith llaw; maer dyluniadaun hardd ac eton ymarferol tu hwnt ac yn eich denu iw cyffwrdd.
Mae safon orffenedig pob eitem yn uchel dros ben, syn golygu y dylent bara am flynyddoedd ac y gellir eu trosglwyddo o un genhedlaeth ir llall.
Fel rheol mae gennym amrywiaeth o ddarnau dur solet o waith llaw, er enghraifft, fframiau dringo i blanhigion, sfferau Groegaidd, rac i ddal esgidiau glaw, taclau tân, basgedi coed tân a basgedi cadw cylchgronau. Gan fod ein holl gynnyrch o waith llaw, efallai y bydd angen rhybudd arnom os hoffech gael eitem arbennig.
Mae Chris yn mwynhau gweithion greadigol gyda dur ac maen cynnig gwasanaeth personol lle mae modd creu darnau unigryw i gyfateb i ddymuniadau penodol y cwsmer.
Eitemau ymarferol wediu gwneud â llaw ar gyfer y garddwr craff
Useful Information
Owner/Manager: Chris Goodgame
News & Special Offers
Opening Times
Chris Goodgame Statistics: 0 click throughs, 106 views since start of 2025