Ar Ôl blynyddoedd o weithio mewn ysbytai athrofaol yn Llundain, daeth Gill ac Andy ir casgliad eu bod angen newid eu ffordd o fyw yn llwyr a phenderfynodd y ddau brynu fferm fechan yng Nghymru. Gan nad oedd ganddynt unrhyw brofiad o ffermio roeddent yn chwilio am anifeiliaid syn hawdd iw rheoli ac a fyddain rhoir cyfle iddynt sefydlu busnes bach a defnyddio crefftau traddodiadol. Ac Alpacas oedd yr ateb gorau. Ar y dechrau, penderfynwyd prynu chwe anifail, ond erbyn hyn mae ganddynt bedwar ar bymtheg, yn ogystal â saith iâr geriatrig a phum cwch gwenyn!
Erbyn hyn mae Gill ac Andy wrth eu boddau yn magu alpacas a chynhyrchu dillad alpaca ar eu tyddyn yn Llanfihangel Crucornau. Mae ganddynt weithdy bach hefyd lle mae modd i chi weld y broses o droi cnu yn edafedd, yn ogystal â gweld y gwisgoedd gorffenedig. Mae pob gwisg wedi ei gweu â llaw o wlân alpaca naturiol 100% (ni ddefnyddir lliw), ac maer rhan fwyaf o ddillad plant a babanod wedi eu nyddu â llaw.
Maent yn cynhyrchu mêl a chynhyrchion gwenyn eraill hefyd. Gellir prynur cynhyrchion hyn ar gwisgoedd ar y fferm. Mae croeso i ymwelwyr, ond dylid ffonio o flaen llaw i wneud yn siŵr bod rhywun yno. Gallwch gerdded o gwmpas y tyddyn a chyfarfod yr alpacas, yr ieir ar gwenyn.
Ar gael yn: Berry Bach Farm
Useful Information
Owner/Manager: Gill ac Andy Jones
News & Special Offers
Opening Times
Berry Bach Statistics: 0 click throughs, 76 views since start of 2025