Rwyn dylunio a chreu gemwaith arian. Mae pob darn yn unigryw, felly gallwch fod yn siŵr na fydd na ddarn arall syn union yr un fath.
Mae naws Geltaidd i lawer om gwaith. Er bod dylanwad fy ngwreiddiau Cymreig ar fy ngwaith dylunio, ynghyd â harddwch cefn gwlad sir Fynwy, caf fy ysbrydoli hefyd gan siapau a gweadau syml, a hefyd gennych CHI, yr unigolyn syn prynur gwaith.
Rwyn llunio mwclis, breichledau, modrwyau, broetshys a chlustdlysau, ond hefyd rwyn hoff iawn o greu cofroddion unigryw ar gyfer achlysuron arbennig, pen-blwydd, babi newydd, bedydd, graddio neu briodas.
Mae gen i fodrwyau a chadwyni a dolenni llawes ar gyfer dynion i gyd wediu gwneud â llaw.
Y tro cyntaf i mi fwynhau creu gemwaith arian oedd yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr, cyn i mi ddechrau ar yrfa gyffrous yn ysgrifennu am fwyd. Rai blynyddoedd yn Ôl, ar Ôl cyfarfod y gemydd Frances Lester, ailgydiais yn fy nghrefft a dechrau mynychu ei gweithdai yn Oriel Grefft Court Cupboard, ar gyrion y Fenni. Maer gweddill bellach yn hen hanes!
dewch i weld fy nghyfres ddiweddaraf neu i gael sgwrs am greu darn unigryw, syn arbennig i chi.
Useful Information
Owner/Manager: Annette Yates
News & Special Offers
Opening Times
Annette Yates Jewellery Statistics: 0 click throughs, 93 views since start of 2025