Mae gemwaith Susie wedi ei wneud o wydr deuliw, a ddatblygwyd ar gyfer offer optegol yn rhaglenni NASA. Gwneir pob darn drwy dorri a haenu gwydr deuliw, gwydrau lliw a gwydrau arbenigol eraill syn cael eu mewnforio, cyn eu tanio mewn odyn ar dymheredd o tua 820°C. Mae eu lleoliad yn yr odyn, y tymheredd ar math o wydr a ddefnyddir oll yn effeithior darn gorffenedig, ac yn sicrhau bod pob un darn yn unigryw.
Gall Susie ddylanwadu ar y darnau gorffenedig drwy gyfuniadau gwahanol o wydr, lliwiau, siapau a gwres, ond mae bob amser yn ddifyr pan ddaw creadigaeth annisgwyl or odyn; mae strwythur a dyfnder y darnaun aml yn dwyn i gof ddelweddau o fyd natur.
I orffen ei gemwaith mae Susie yn defnyddio cadwyni arian Eidalaidd, neu ledr; gwneir clustdlysau o ddur wedii orchuddio ag arian. Mwynhewch wisgo gemwaith unigryw o waith llaw!
Ar gael:
Gentle Jane, Grosmont
01981 241655
Oddi wrth y gwneuthurwr
01600 715375
Useful Information
Owner/Manager: Susie Nagle
News & Special Offers
Opening Times
Alchemy Glass Statistics: 0 click throughs, 83 views since start of 2025