Arlunydd metelau a pheiriannydd mecanyddol talentog yw Terry Mould. Gwelwyd ei robotiaid arswydus mewn cystadlaethau teledu fel Robot Wars a Mechcanibals.
Mae'n creu cerfluniau metel diddorol ar gyfer gerddi, mannau cyhoeddus ac ar gyfer y cartref. Mae nifer ohonynt yn weithiau symudol sy'n cael eu gyrru gan wynt neu ddŵr, e.e. dreigiau ac adar tân dramatig neu dywysoges hynod sy'n plygu i gusanu broga. Mewn darn sy'n mynegi marwoldeb dynol, mae awelon yn symud y darnau tuag at y foment y mae amser yn dod i ben.
Fydda i byth yn gwneud yr un peth ddwywaith. Fy nod yw creu gwaith celfyddydol ar gyfer pob cleient neu gasglwr - rhywbeth sy'n ysbrydoli, syfrdanu a rhoi pleser.
Ar gael:
Estron Designs
Craft Renaissance Gallery, Brynbuga
Useful Information
Owner/Manager: Terry Mould
News & Special Offers
Opening Times
Absolute Metal Statistics: 21 click throughs, 340 views since start of 2024