Mae Tess yn gweld pwysigrwydd a harddwch geiriau, ac, wrth gyfuno hyn âi chariad tuag at gelf, mae creu geiriau prydferth yn ddilyniant naturiol. Mae hin cynhyrchu ei chynlluniau gwreiddiol ar bapur dyfrlliw trwm sydd wedi ei greu â llaw, ac yn defnyddio inciau o liwiau cyfoethog. Yna, maer argraffiadau cyfyngedig yn cael eu gorffen â llaw, ar bapur garw, papur ymyl garw a deilen aur neu arian.
Yn aml, mae gwaith Tess yn coffáu digwyddiadau arbennig. Mae hin gweithio gydai chleientiaid i greu gwaith celfyddydol, gan ddefnyddio pennill neu eiriau sydd ag ystyr arbennig iddynt hwy. Caiff Tess foddhad mawr wrth greu dehongliad gweledol o eiriau syn ysbrydoli neun cysuro pobl. Mae hi wrth ei bodd yn ymchwilio ir geiriau au deall yn eu cyd-destun ehangach, a mynd ati i greu gwaith celfyddydol or newydd. Mae hi wedi creu darn ar gyfer Dr Rowan Williams, Archesgob Caergaint.
Ar gael:
Wyefield House, Trefynwy
01600 713021
Useful Information
Owner/Manager: Tess Cooling
News & Special Offers
Opening Times
Tess Cooling Calligraphy Statistics: 1 click throughs, 48 views since start of 2025