Robert Jones

Mae Sir Fynwy wedi f'ysbrydoli erioed.

Mae Sir Fynwy wedi f’ysbrydoli erioed. Fe’m ganed a’m magwyd yn Rhymni – ardal sy’n enwog am Idris Davies, y bardd, a’r clychau a enwir yn y gân werin adnabyddus – ac ardal a oedd yn rhan o Sir Fynwy ar un adeg. Erbyn hyn, rwy’n byw yn Y Fenni.

Dechreuais ymddiddori mewn ffotograffiaeth pan oeddwn yn yr ysgol ac rwyf wedi gweithio yn y maes hysbysebu a marchnata ers i mi ddod i oed ac mae hyn wedi galluogi i mi weithio gyda sawl math o ddelweddau gweledol.

Fodd bynnag, ffotograffiaeth tirlun sydd wedi mynd â’m bryd erioed ac mae’n caniatáu i mi dreulio cymaint o amser â phosibl yn yr awyr agored, yn cymryd rhan mewn tri o’m hoff weithgareddau - cerdded, caiacio a reidio beic.

Er mai tirluniau yw’r rhan fwyaf o’m delweddau o Gymru, rwyf hefyd yn tynnu lluniau o ‘ddelweddau naturiol’ fel creigiau, tywod, pren, dŵr a phlanhigion.

Rwy’n defnyddio’r lluniau i greu cardiau cyfarch hefyd.
Ar gael yn:

dolen y wefan

Useful Information

Robert Jones

Owner/Manager: Robert Jones

P O Box 222 Y Fenni Monmouthshire NP7 5YG United Kingdom
phone: 01873 855552 fax:

News & Special Offers

Opening Times

Robert Jones Statistics: 2 click throughs, 54 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community