Maer arlunydd rhyngwladol, Pat Yallup, erbyn hyn yn gweithio oi horiel/ stiwdio ei hun yn Nyffryn Gwy gan roi bywyd iw dychymyg ai hemosiwn ar gynfas.
Mae ei gwaith blaenorol iw weld mewn casgliadau sefydlog yng Nghanada, Yr Almaen, America, Awstralia, Seland Newydd a De Affrica.
Treuliodd Pat ei blynyddoedd ffurfiannol yn Ne Affrica, felly mae gwleidyddiaeth eithafol wedi cael dylanwad mawr ar gryn dipyn oi gwaith.
Mae cyfuno dylanwadau or fath â llonyddwch Sir Fynwy, wedi arwain at arddangosfa bryfoclyd o 28 darn haniaethol, mynegiadol, syn portreadu natur dyn. Maer paentiadau arwyddocaol hyn yn cynnwys delweddau grymus mewn arddangosfa syn creu anghysur ar adegau ond hefyd yn procior meddwl gan ddatgelu doniau sylweddol Pat yn y celfyddydau gweledol. Maer arddangosfa yn enghraifft dda o waith Pat ar hyn syn ei sbarduno, ond nid ywn addas ir gwangalon.
Ar gael:
website link
Gallery House Llandogo
01594 530940
Useful Information
Owner/Manager: Pat Yallup
News & Special Offers
Opening Times
Pat Yallup Statistics: 0 click throughs, 91 views since start of 2025