Louise Gains Contemporary Art

Mae'r Afon Gwy yn ysbrydoliaeth barhaus i mi - `Natur yn gweu' yw fy nisgrifiad i o'r planhigion gwyllt sy'n tyfu yn y dirwedd brydferth hon.

Mae’r Afon Gwy yn ysbrydoliaeth barhaus i mi – ‘Natur yn gweu’ yw fy nisgrifiad i o’r planhigion gwyllt sy’n tyfu yn y dirwedd brydferth hon. Rwy’n hoff iawn o ddefnyddio gwead yn fy ngwaith, sy’n cael ei greu drwy ddefnyddio brwshys gwifrog i gynrychioli’r gwyrddni anrhefnus.

Rwyf hefyd yn arbrofi gyda’r hyn yr wyf yn ei alw’n ‘Micro Emosiwn’ – y teimladau sydyn hynny sy’n rhuthro heibio inni yn ystod ein bywydau prysur. Maent yn gynnil ac mor hawdd i’w hanghofio erbyn diwedd y dydd.

Rwy’n tynnu lluniau digidol o’m diwrnod ac o ddarnau 3D y bum yn eu casglu ar hyd y blynyddoedd. Rwy’n eu cyfuno a chreu collage ohonynt ar fy nghyfrifiadur gyda Photoshop ac ar Ôl creu’r awyrgylch gywir gallaf weld a theimlo’r ‘Micro Emosiwn’ unwaith yn rhagor.

Rwy’n cynnal dosbarthiadau mewn meddwl creadigol neu “Darganfod syniadau, wedyn: Defnyddio’r syniadau.”

Ewch i wefan Mouse Spotters:
website link.

Louise Gains Studio, Chepstow
website link

Useful Information

Louise Gains Contemporary Art

Owner/Manager: Louise Gains

Cas-gwent Monmouthshire NP16 5AT United Kingdom
phone: 01291 630917 fax:

News & Special Offers

Opening Times

Louise Gains Contemporary Art Statistics: 7 click throughs, 46 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community