Er na chefais hyfforddiant ffurfiol credaf fod fy arddull wedii ddylanwadun bennaf gan fy niddordeb yng ngwaith y tri arlunydd Cymreig - Kyffin Williams, John Blockley a John Knapp-Fisher. Roedd y tri ohonynt yn cynnwys strwythurau ffermio syml yn eu gwaith, awyr ddramatig a dim ond ychydig o liwiau.
Mae Mynydd Du, sef ffynhonnell fy ysbrydoliaeth, yn gymysgedd ardderchog o adeiladau a thirwedd hen ffermydd, capeli, dyffrynnoedd, llwybrau crib ac ati yn ymddangos ar raddfa fach o fewn amgylchedd ehangach Bannau Brycheiniog gydai raeadrau, y gamlas ac ambell i gopa trawiadol.
Rwyn ceisio creu delweddau llawn gwead o dirwedd Cymru syn llawn cyferbyniad ac yn ymylu ar y lled haniaethol. Llwyddir i greur effaith drwy gyfuniad o waith gweadeddol mewn paent acrylig, syn cael ei osod gyda chyllell baled, a throshaenau o ddyfrlliwiau pur hynod ddwys or Eidal.
Ar gael:
The Court Cupboard Craft Gallery, Y Fenni
Xenia Home & Gift Centre, Y Fenni FfÔn: 01873 851666
Victoria Fearn Gallery, Caerdydd
Waterfront Gallery, Aberdaugleddau
Oriel y Felin Gallery, Hwlffordd
Ar gael: gydol y flwyddyn
Useful Information
Owner/Manager: David Haswell
News & Special Offers
Opening Times
Gavenny Graphics Statistics: 0 click throughs, 59 views since start of 2025