Gentle Jane

Mae Ystafell De Gentle Jane a'i gwasanaeth gwely a brecwast ym mhentref hanesyddol y Grysmwnt, Sir Fynwy, mewn awyrgylch gyfforddus sy'n gyfuniad o'r hen a'r newydd.

Mae Ystafell De Gentle Jane a’i gwasanaeth gwely a brecwast ym mhentref hanesyddol y Grysmwnt, Sir Fynwy, mewn awyrgylch gyfforddus sy’n gyfuniad o’r hen a’r newydd. Cynnyrch lleol a thymhorol a ddefnyddir gan amlaf ac mae’r arlwy cartref bob amser o ansawdd uchel iawn. Darparu gwasanaeth i dwristiaid sy’n ymweld â’r pentref hynafol ar daith y 3 chastell oedd y bwriad gwreiddiol. Roedden nhw’n awyddus i weini bwyd o ansawdd da wedi’i wneud o gynnyrch lleol a’i gyflwyno mewn amgylchedd unigryw a chwaethus.

Mae detholiad o gelf, crefft a chynnyrch lleol ar werth yn yr ystafell de gan gynnwys tecstiliau, gemwaith a mêl.

Mae Gentle Jane wrth eu bodd â’u Gwobr Aur yng Ngwobrau Cymru y Gwir Flas 2009-2010 yng nghategori Bwyta Allan. Fe fuasent wrth eu bodd yn rhannu hyn gyda’u cwsmeriaid hefyd, ac maent yn edrych ymlaen at eu helpu i brofi gwir flas Cymru.

Gentle Jane – yn ddi-os, yr ystafell de orau yng Nghymru.

Useful Information

Gentle Jane

Owner/Manager: Linda Mintowt-Czyz

Y Grysmwnt Monmouthshire NP7 8EP United Kingdom
phone: 01981 241655 fax:

News & Special Offers

Opening Times

Gentle Jane Statistics: 0 click throughs, 81 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community