Croeso i Gaernarfon

- ein tref farchnad hynafol ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.

Roedd y lle arbennig hwn yn un o hoff gyrchfannau Tywysogion Celtaidd ac Ymherodwyr Rhufeinig, a heddiw, yn ogystal â bod y dref Gymreiciaf yn y byd, mae'n rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, diolch i’n castell hynod o’r 13eg ganrif.

Ffurfiwyd y dref gaerog wreiddiol gan y Brenin Edward l, ac fe’i cynrychiolwyd gan Lloyd George, y Cymro tanbaid a fu’n Brif Weinidog dros wledydd Prydain adeg y Rhyfel Mawr. Wrth ymweld â’r dref heddiw, gallwch synhwyro a hyd yn oed cyffwrdd yr hanes hwnnw yn yr hen dref gaerog a’r castell. Ond mi wnewch chi hefyd ddod i ddeall bod gan Gaernarfon lawer mwy i’w gynnig!

Wrth grwydro o amgylch y dref heddiw, fe sylweddolwch mai yma mae Calon Geltaidd Cymru’n curo ar ei chryfaf. Cewch groeso gwirioneddol Gymreig mewn siopau sy’n llawn o gynnyrch traddodiadol. Yn yr amrywiaeth helaeth o fwytai a chaffis, cewch flasu bwyd sydd wedi’i goginio o’r cynhwysion lleol mwyaf ffres.

O’ch amgylch ym mhob man, fe glywch y Gymraeg yn cael ei siarad. Mae’r iaith hynafol hon yn ffynnu ym mhob rhan o sir Gwynedd. Mae’r Gymraeg yn iaith Geltaidd, ac mae ganddi gysylltiadau mwy clos â Chernyweg a’r Llydaweg na Gaeleg a'r Wyddeleg. Gan ei bod yn iaith ffonetig, mae’n haws ei hynganu nag y byddech yn ei ddisgwyl o’i gweld am y tro cyntaf.

Mae Caernarfon yn ganolbwynt delfrydol ar gyfer darganfod mynyddoedd tal Eryri, a’r traethau euraid ar hyd ein harfordir hardd. Yn wir, gallwch ddefnyddio Caernarfon fel man cychwyn ar gyfer archwilio Llwybr Arfordir Cymru sy’n mynd heibio ein promenâd, wrth ymyl waliau’r dref.

Mae’r ardal yn llawn dirgelion hud, pentrefi sy’n nythu mewn cymoedd a chilfachau cudd, lonydd troellog sy’n ddelfrydol ar gyfer cerdded neu seiclo, machlud ysblennydd dros FÔr Iwerddon a gwawr godidog dros Eryri.

Cliciwch yma am gopi PDF o daflen tref Caernarfon

Useful Information

- ein tref farchnad hynafol ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.

Croeso i Gaernarfon Statistics: 4 click throughs, 63679 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community