Daw rysáit mis Mehefin

Daw rysáit mis Mehefin gan Julie Carey, Pen-cogydd Bwyty Clarkes, Gwesty Glen-yr-Afon, ym Mrynbuga. Mae'n cynnwys Eidion Du Cymreig o Fferm Whitehouse ym Mrynbuga.

Dan arweinyddiaeth y Pen Gogydd Julie Carey, mae bwyty Clarkes Restaurant wedi ei leoli o fewn Gwesty Glen-yr-Afon House Hotel nid nepell ar droed o ganol Brynbuga yn Sir Fynwy brydferth.

Meddai Julie:
"Mae gweithio yma yn swydd sy’n gwireddu breuddwyd. Mae gennym fynediad i ystod ragorol o gynnyrch gwych sydd naill ai’n cael eu cynhyrchu’n lleol neu ychydig filltiroedd i ffwrdd, a’u dosbarthu yma mewn mater o oriau, yn ffres i’r drws. Mae gweithio gyda chynhwysion o’r ansawdd gorau yn gwneud fy swydd i, sef creu bwyd heb ei ail, yn bleser go iawn, a’r canlyniad ar ei ddiwedd, yn Ôl y gobaith, hyd yn oed yn fwy o bleser i’n cwsmeriaid."

CYNHWYSION: (digon i 6)
2 Ffon Seleri
2 Winwnsyn Coch
 
2 Genhinen
2 Foronen
8 Tafell o Gig Moch mwg
2bwys o Stecen i’w brwysio (tafellau)
5 Clof o arlleg
Sbrigiau o deim
Saws Soy
1/2 potel o win coch
Saws Caerwrangon
Blawd plaen
2 beint o Stoc cig eidion
Halen a Phupur
2bwys o datws (Maris Piper/Desire)
3owns o fenyn
1 1/2 peint o Stoc Cyw Iâr

Dull ar gyfer y caserol:-
Deisiwch y seleri, winwns, moron, cenhinen a’r bacwn a ffriwch mewn menyn tan eu bod yn frown euraidd ac yn feddal. Ychwanegwch 3 clof o arlleg, 6 llwy fwrdd o saws soy, dail teim, ychydig o saws Caerwrangon a 1/2 potel o win coch. Dewch â’r cyfan i’r berw tan iddo leihau i tua hanner y maint.

Mewn sosban arall cymysgwch pinsiad o halen a phupur gyda dau lond llaw o flawd. Ychwanegwch y stribedi cig eidion a’u gorchuddio â’r blawd.
Ffriwch y stribedi yn y menyn tan eu bod yn frown euraidd. Ychwanegwch 3 llond llwy de o saws soy a choginiwch am 30 eiliad arall yna ychwanegwch at y gwin a’r llysiau.

Ychwanegwch 2 beint o stoc cig eidion cartref (o ddewis, ond os na, mae yna rhai stociau parod da ar gael). Er mwyn dyfnhau’r blas defnyddiwch saws Espanol (saws brown) i dewychu’r saig, fodd bynnag, mae’n waith caled i’w wneud yn y cartref, felly, beth am ddefnyddio cymysgedd arall, drwy chwisgo blawd a dŵr, ei rhidyllu a’i ychwanegu’n araf i’r caserol wrth iddo ddechrau berwi, tan iddo dewychu. Rhowch y gymysgedd i mewn i hambwrdd pobi, ei orchuddio â ffoil a’i goginio yn y ffwrn am 2 awr ar 120º.

Dull ar gyfer y tatws ffondant:-
Piliwch y tatws a sleisiwch y top a’r gwaelod i ffwrdd, fel bod gennych arwynebau gwastad ar y ddwy ochr sy’n galluogi’r tatws i sefyll i fyny.
Cynheswch yr olew olewydd a thalp o fenyn mewn padell ffrio ddofn. Ychwanegwch y tatws, fel eu bod yn sefyll i fyny, a choginiwch am 4-5 munud tan eu bod yn grensiog ac yn frown. Trowch y tatws wyneb i waered ac ychwanegwch y stoc cyw iâr, sbrigiau o deim a 2 clof o arlleg. Dylai’r stoc cyw iâr ddod tua 3/4 y ffordd i fyny’r daten, gan greu gwead meddal sy’n toddi yn y geg, ac arwyneb crensiog.
Rhowch y sosban yn y ffwrn (gan wneud yn siŵr fod y sosban yn addas ar gyfer y ffwrn) a phobwch ar 180º am 20-30munud. Bydd y tatws yn barod pan fyddwch yn medru rhoi cyllell trwy eu canol.

Eidion Du Cymreig
Mae’r mwyafrif o’n Gyr yn Wartheg Duon Cymreig ynghyd ag Aberdeen Angus. Mae’r Brîd Duon Cymreig yn enwog fel brid sy’n tyfu’n arafach o gymharu â’r mwyafrif o’r bridiau masnachol, sy’n golygu eu bod yn cymryd bron i ddwywaith yr amser i aeddfedu. Rydym yn hoffi caniatáu digon o amser i’n gwartheg dyfu’n naturiol sydd yn amlwg iawn ym mlas cynnyrch terfynol yr Eidion Du Cymreig a’r Aberdeen Angus.

Mae ein heidion i gyd yn cael eu paratoi yn ein safle prosesu cig ar ein fferm, sydd nawr yn ein galluogi i hongian ein heidion am gyfnod o hyd at 21 diwrnod neu’n hirach yn ein Hystafell Oer. Yna daw ein cigydd i baratoi ein cig a’i dorri’n wahanol ddarnau. Rydym wedyn yn ei bacio a’i rhoi mewn blwch yn ffres, ac yn barod i’w gasglu. Mae’r broses hon yn gostwng milltiroedd bwyd ac yn rhoi inni reolaeth lwyr dros ein cynnyrch o’r dechrau i’r diwedd.

Gallwch brynu ein heidion wrthym yn uniongyrchol neu o Ganolfan Arddio Brynbuga, rhowch glic ar y wefan:<website link

Rydym nawr yn cyflenwi busnesau eraill ac mae pob un ohonynt yn canmol blas ein cynnyrch.

I weld cynhyrchwyr cig eraill yn y sir, ewch i website link

I weld cynhyrchwyr cig yng Nghymru sydd wedi ennill gwobrau lu, ewch i website link

I weld cynhyrchwyr llysiau eraill yn y sir, ewch i website link

I weld cynhyrchwyr llysiau yng Nghymru sydd wedi ennill gwobrau lu, ewch i website link

Useful Information

Daw rysáit mis Mehefin gan Julie Carey, Pen-cogydd Bwyty Clarkes, Gwesty Glen-yr-Afon, ym Mrynbuga. Mae'n cynnwys Eidion Du Cymreig o Fferm Whitehouse ym Mrynbuga.

Daw rysáit mis Mehefin Statistics: 0 click throughs, 72 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community