Llwncdestun i lwyddiant Gwinllannau Sir Fynwy!

Mwy o wobrau i winllannau Sir Fynwy

Cafwyd cynrychiolaeth gan winllannau o ledled De Orllewin Lloegr a De Cymru. Dyfarnwyd gwobrau i 93 o winoedd, gyda 10 ohonynt yn cael eu cyflwyno i’r 3 winllan yn Sir Fynwy, sef- Ancre Hill Estates, Gwinllan Fferm Parva a Gwin Wernddu. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yng Ngwinllan ‘Three Choirs’, Newent, ddydd Gwener, gyda 5 arbenigwr yn dall-flasu’r gwin. Fe wnaeth pawb ymgynnull yn Ancre Hill, Trefynwy i flasu’r gwinoedd. Wedi cinio ardderchog, cyhoeddwyd canlyniadau’r gwinoedd a feirniadwyd y diwrnod blaenorol.

Roedd cefn gwlad Sir Fynwy yn ysblennydd, yn boddi yn yr heulwen braf, ac edrychai gwinllan Ancre Hill yn bictiwr, gyda chnwd da iawn o rawnwin bron yn barod i’w casglu. Mae gwaith caled y perchnogion Richard a Joy Morris yn amlwg iawn a heb os, llwyr gyfiawnhawyd y wobr arian am eu gwin gwyn sych canolig a’u gwobrau efydd am eu gwinoedd gwyn sych a’u gwinoedd rose.

Nid nepell ymhellach i lawr Dyffryn Gwy yn Nhyndyrn y mae Gwinllan Fferm Parva sy’n eiddo i Colin a Judith Dudley. Fe wnaethon nhw dderbyn gwobr arian am eu gwin gwyn sych, gwobrau efydd am eu gwin gwyn sych canolig, rose a rose pefriol a chafodd eu gwin pefriol gymeradwyaeth uchel. Meddai Colin “Rydym yn hynod falch o’r wobr arian am ein Bacchus gwyn sych 2009 gan mai Bacchus yw ein gwin blaenllaw ac mae ein cwsmeriaid wrth ei bodd ag ef. Rydym yn gobeithio y cawn gnwd da o rawnwin eleni, felly dylai ein gwinoedd yn 2010 fod cystal, os nad yn well nag erioed!”

Dyma’r tro cyntaf i Frank a Leigh Strawford o ‘Gwin Wernddu’ ym Mhen-y-clawdd, ger Rhaglan, rhoi cynnig ar y gystadleuaeth. Eu gwinllan nhw yw’r unig winllan organig yn Sir Fynwy ac mae Frank yn defnyddio’u cyfleusterau eu hunain i wneud eu gwin hwy ar y fferm. Mae cydnabod ansawdd eu gwin yn hwb mawr iddynt wedi blynyddoedd o dorchi llewys yn sefydlu’r winllan a’i chofrestru’n winllan organig. Meddai Frank a Leigh, “Roedd hi’n werth aros am y wobr efydd am ein gwin gwyn sych a chymeradwyaeth uchel am ein Brut Pefriol. Edrychwn ymlaen at symud yn ein blaenau – dyma lwncdestun i gnwd 2012!”

Mae’r ffaith bod y tair gwinllan yn gwneud mor dda yn dweud cryn lawer am ansawdd y grawnwin a dyfir yn yr ardal yma o Sir Fynwy ynghyd â’r gwaith caled ar ran y perchnogion. Beth allai fod yn well na gyrru drwy gefn gwlad odidog Sir Fynwy, ymweld â’r gwinllannau, blasu’r gwinoedd a chyfarfod â’r bobl sy’n eu cynhyrchu - diwrnod i’r brenin!.

Am ragor o wybodaeth am y gwinllannau arobryn gweler:
Parva Farm: website link
Ancre Hill Estates: website link
Wernddu Wine: website link

Useful Information

Mwy o wobrau i winllannau Sir Fynwy

Llwncdestun i lwyddiant Gwinllannau Sir Fynwy! Statistics: 0 click throughs, 82 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community