Bu Gwnaed yn Sir Fynwy yn arddangos gwaith rhai o artistiaid a chrefftwyr goraur sir yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy.
Bydd ffilm fer am brofiad yr arddangoswyr yn yr Eisteddfod iw gweld website link.
Yn Ôl Becky Hughes, Swyddog Arloesi mewn Twristiaeth adventa, roedd y digwyddiad yn gyfle unigryw i gyflwyno crefftwyr Sir Fynwy i gynulleidfa newydd.
Gydar Eisteddfod ar garreg y drws eleni, fe benderfynon ni fynd amdani. Bur stondin yn llwyddiant ysgubol, gan ddenu cannoedd o ymwelwyr.
Roedd ein stondin yn cynnwys paentiadau gan David Haswell a Nora Lewis ochr yn ochr â gemwaith gan Annette Yates, Louise Lovell, Marion Meek a Lynn Kristen Clarke. Roedd cyfle hefyd i brynu crefftau wediu gwehyddu â llaw gan Stuart Neale, gwaith metel Chris Goodgame, crefftau gan y turniwr pren Mike Bloomfield a gwaith caligraffeg gan Tessie Cooling.
Bu cynhyrchwyr bwyd lleol yn cynnwys Gwenynfeydd Dyffryn Gwy a Dyffryn Wysg, Gwinllan Parva Farm, Charcuterie Trealy Farm a Neil James y cigydd yn arddangos eu danteithion yn yr Eisteddfod yn neuadd fwyd y Cynulliad, a threfnodd adventa gyfres o arddangosiadau coginio gan ddefnyddior gorau o gynhwysion Sir Fynwy.
Useful Information
Bu Gwnaed yn Sir Fynwy yn arddangos
Eisteddfod Genedlaethol Statistics: 0 click throughs, 86 views since start of 2025