Y Gorllewin ... a'r Gweddill!

Diwrnod 1
Ar Ôl noson yn ardal Llandeilo cychwynnwch ar hyd yr A40 i gyfeiriad Aberhonddu.

Ar eich ffordd, hwyrach yr hoffech chi ymweld â Chanolfan Fwydo’r Barcud yn Llanddeusant. Neu os ydych chi’n gerddwyr profiadol gydag offer pwrpasol gallech gerdded at Lyn y Fan Fach. Am daith gerdded haws ewch o ganolfan y Barcud gan ddilyn ffordd y gweundir tuag at Drecastell. Ar eich ffordd i’r dwyrain, arhoswch wrth gronfa ddŵr Llyn Wysg lle mae llwybrau rhagorol ar gyfer cerdded a beicio. Ailymunwch â’r A40 ym mhentref bach Trecastell.

Gyrrwch ar hyd yr A40 tuag at Aberhonddu. Os oes gennych chi awydd teithio ar rywbeth tipyn distawach, beth am ymweld â Fferm Antur Cantref am ychydig o ferlota? Neu tybed a fyddai’n well gennych chi ddefnyddio ychydig o egni ar y cwrs golff? Mae gan Aberhonddu ddau gwrs da – Cradoc, cwrs parcdir gwych 18 twll uwchben y dref a Chlwb Golff Aberhonddu ar ochr orllewinol y dref. Ar Ôl holl weithgaredd y dydd, byddwch chi’n teimlo bellach fel cael gorffwys haeddiannol yn un o’r gwestai neu lefydd gwely a brecwast braf yn ardal Aberhonddu.

Diwrnod 2
Heddiw fe awn ni i ran ganol a dwyreiniol y Parc. Ewch allan o Aberhonddu ar yr A40 tua’r Fenni. Cymerwch y troad cyntaf i’r chwith a dilyn arwyddion i Lan-gors – wrth ichi gyrraedd y pentref fe welwch droad ar y dde at y llyn. Mae ambell lwybr braf i gerdded yma, neu gallech wneud ychydig o bysgota neu logi cwch a rhwyfo am blwc. Os oes well gennych wneud rhywbeth mwy egnïol beth am ymweld â Chanolfan Amlweithgareddau Llan-gors ar ochr arall y pentref.

Wedi gadael Llan-gors gyrrwch ymlaen i’r Gelli Gandryll, y dref lyfrau fyd-enwog, gan deithio ar y B4560 drwy Dalgarth ac i’r A4078 a’r B4350 yn y Clas-ar-Wy. Bydd canolfan Gweithgareddau’r Mynydd Du a Chanŵod Dyffryn Gwy ar y ffordd hon yn rhoi cyfle ichi roi cynnig ar lu o wahanol weithgareddau a dod i adnabod Afon Gwy. Ceir cyfle arall i ferlota yng Nghanolfan Ferlota Tregoed yn nes at y Gelli. Yn y Gelli ei hun, gallech ddod o hyd i lyfr da, treulio awr ddiddan neu ddwy yn y llu o siopau hudolus neu, eto, logi canŵ gan gwmni Paddles & Pedals yn y dref. Dewis arall yw mynd i saethu colomennod clai gyda dryll electronig yn Hay Lasersports.

O’r Gelli gallech ddychwelyd i Aberhonddu am y noson, ond ein hawgrym ni yw ichi yrru tua’r de drwy olygfeydd godidog Bwlch yr Efengyl i’r Fenni. Gadewch y dref ar y B4350 i gyfeiriad Aberhonddu. Yn syth ar Ôl pasio tafarn y Swan trowch i’r chwith, gan ddilyn yr arwyddion am Gapel y Ffin. Ffordd un trac yw hon (gyda digon o lecynnau pasio) a gall fod yn daith araf ond mi fydd yn werth chweil. Mi gewch chi olygfeydd anhygoel dros y wlad o’ch cwmpas a mwy o ganolfannau merlota eto! Ar Ôl Capel y Ffin aiff y ffordd heibio i adfeilion prydferth Priordy Llanddewi Nant Hodni, cyn ymuno â’r A465 ger Tafarn Ysgyryd, lle mae mwy o ysbrydion, medden nhw, nag yn unrhyw dafarn arall yng Nghymru! Trowch i’r dde am y Fenni, ardal lle mae digonedd o lety ar gael.

Gwefannau

www.redkiteswales.co.uk
www.guardian.co.uk/travel/2009/jun/10/walk-guides-blaenau-carmarthenshire
http:// www.breconbeacons.org/visit-us/easy-access/routes-strolls-and-walks/usk-reservoir
www.cantref.com
www.brecongolfclub.co.uk
www.cradoc.co.uk
www.visitbrecon.com
www.llangorselake.co.uk
www.activityuk.com
www.wyevalleycanoes.co.uk
www.blackmountain.co.uk
www.tregoydriding.co.uk
www.canoehire.co.uk
www.haylaser.co.uk
www.llanthony.co.uk
www.abergavenny.co.uk

Useful Information

Y Gorllewin ... a'r Gweddill! Statistics: 0 click throughs, 83 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community