Fe ddechreuwn ni yn y Fenni ... coffi a theisen yn FOR THE LOVE OF CAKE, siop fechan gyferbyn â W.H. Smith. Y perchnogion syn rhedeg y lle yw CLAMS CAKES o Grucywel. Rhowch gynnig ar gacen almon stici, taeniad lemon neu deisen ffrwythau a whisgi (% alcohol mor uchel nes bod angen trwydded ar Clams!). Picnic? Rownd y gornel yn Stryd Nevill mae DELI DELICIOUS. Dewiswch o blith y 100 cynnyrch Cymreig lleol sydd ar werth yno i greu eich picnic. Beth am frecwast Cymreig traddodiadol parod iw goginio? rhowch un yn eich bag oer ar gyfer y bore.
Ewch tuar GORLLEWIN ar yr A40 allan or Fenni am GRUCYWEL (pasiwch yr arwyddion i Sugar Loaf Vineyard....byddwn yn Ôl wedyn!) Ar gyrraedd y dref, trowch ir chwith i mewn i stad fasnachol Elvicta, ir chwith eto a dymar BLACK MOUNTAIN SMOKERY. Caiff eog, hwyaden, cyw iar ac ati i gyd eu cochi yma. Cewch damaid i gael blas a mwy o bethau da ir bag oer! Parciwch y tu Ôl i orsaf dân CRUCYWEL ac ewch ir Sgwâr. Mae siop gigydd CASHELLS ar y dde, â myrdd o bethau da rhowch gynnig ar selsig y ddraig (ni chafodd yr un ddraig niwed, wir!), cawsiau lleol, llysiau, sudd afal organig a hyd yn oed picls cowbois! Hwyrach bod marchnad ffermwyr neu awyr agored heddiw hefyd?
Ewch ymlaen ar hyd yr A40, gan basio dolydd braf stad Glan Wysg ac afon Wysg. Ewch heibior arwydd i westy GLIFFAES (gwesty gwledig yn uchel uwchben Afon Wysg lle ceir te prynhawn heb ei ail! Rywbryd eto, ddarllenydd mwyn). Ewch ymlaen ar yr A40 i fynyr rhiw, ac wedi mynd trwy bentref BWLCH fe welwch arwydd y WELSH VENISON CENTRE och blaen. Yn siop fferm yma cewch gig carw wedii ffermion lleol. Yn dyner a heb bron ddim braster, gofynnwch am ryseitiau a thamaid i flasu.
Y prynhawn yma awn yn Ôl bron bob cam ir FENNI i ymweld â gwinllan SUGAR LOAF VINEYARD. Wedi pasior dafarn ar y chwith cymerwch y lÔn gul nesaf ar y chwith. Cewch ddysgu am winoedd gwyn, coch a byrlymus mewn awyrgylch hamddenol cyn crwydro rhwng gwinwydd y llethrau.
NEU os yw caws a siocled yn fwy at eich dant ewch ymlaen ar yr A40 ir gylchfan nesaf, trowch ir dde a dilyn yr arwyddion trwy LAN-FFWYST ir B4246 ac i Dref Treftadaeth Byd BLAENAFON. Yn Main Street ewch i GWMNI CAWS BLAENAFON am gaws sydd wedi aeddfedu dan y ddaear yn y BIG PIT, neu gorffennwch eich diwrnod gan wneud eich siocledi eich hun yn CHOCS AWAY. Cysgwch yn dda, ddarllenydd mwyn, cewch ddechraur ddeiet yfory!
Gwefannau
www.crickhowellinfo
www.gliffaeshotel
www.beaconsfarmshop
www.breconbeacons.org/localfoodanddrink
www.chunkofcheese.co.uk
www.chocsawayparty.co.uk
www.fmiw.co.uk
Useful Information
Taith i `loddestwyr' o gwmpas rhan ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Os am aros mewn gwesty, llety gwely a brecwast, hunan-arlwyo, neu ddim ond yma am y dydd, mae pawb eisiau bwyta. Mae ein bwyd lleol yn arbennig - tymhorol, pur ac â gwir flas anhygoel. Milltiroedd bwyd? Dim! Dewch i roi cynnig arno ... dyma ddiwrnod na wnaiff eich tafod fyth ei anghofio!
Bwyd, o! Fwyd bendigedig! Statistics: 0 click throughs, 60 views since start of 2025