Diwrnod 2: Cestyll, cychod camlas a'r barcud

Mae cylchdaith heddiw’n cynnwys golygfeydd trawiadol ac amrywiol, o borfeydd ir dyffryn Tywi i uwchdiroedd gwyllt, anghyfannedd y Mynydd Du. Dechreuwch yn Llanymddyfri, tref farchnad nodweddiadol Gymreig yng nghalon ardal amaethyddol lle mae ffermio’n dal i fod yn rhan bwysig o’r economi leol. Cynhelir marchnadoedd da byw yma o hyd (marchnad ŵyn bob dydd Mercher a marchnad wartheg ar drydydd dydd Gwener bob mis), gan roi cipolwg hudol ar fywyd cefn gwlad Cymru – mae’n debyg y clywch chi’r Gymraeg yn y fan hyn. Roedd gan y dref gaer Rufeinig erstalwm ac mae yma adfeilion castell Normanaidd hefyd, er ei bod yn fwy adnabyddus fel man aros pwysig ar lwybr y porthmyn tua’r dwyrain i farchnad Smithfield yn Llundain. Mae canol y dref yn fywiog o hyd, gyda nifer o siopau difyr a digonedd o gaffis i ddewis ohonynt am gwpanaid ganol bore.

Oddi yma, ewch ymlaen ar hyd yr A40 i Landeilo, y porth gorllewinol i’r Parc Cenedlaethol. Mae gan y dref fach hardd hon ddewisiadau gwych ar gyfer cinio a siopa, ac mae hithau’n hanesyddol iawn – mae’n tarddu o’r 6ed ganrif, pryd y ffurfiodd Teilo Sant fynachlog yma. Yn y Canol Oesoedd cynnar bu dyffryn Tywi’n safle sawl brwydr rhwng y Cymry a’r Saeson; cynhaliai’r Arglwydd Rhys, Tywysog Deheubarth ac un o dywysogion mwyaf grymus Cymru ar y pryd, ei lys yng Nghastell Dinefwr gerllaw.

O Landeilo, ewch tua’r de i ymweld â chastell Carreg Cennen, un o’r cestyll mwyaf ysblennydd eu lleoliad yng Nghymru. Dilynwch yr A483 dros Afon Tywi, wedyn trowch i’r chwith yn Ffair-fach a dilynwch yr arwyddion i Garreg Cennen. Bydd y cipolwg cyntaf ar y castell hwn o’r 13eg a’r 14eg ganrif, yn sefyll ar esgair galchfaen greigiog yn tra-arglwyddiaethu dros y wlad o’i amgylch, yn cipio’ch gwynt i ffwrdd. Mae’r safle, sy’n drigfan ers Cynhanes, yn edrych dros Afon Cennen ac wedi’i amgylchynu gan borfeydd gwelltog a choetiroedd. Mae siop roddion a chaffi yn y castell.

O Garreg Cennen, mae cyfres o ffyrdd B yn arwain tua’r dwyrain yn Ôl i mewn i’r Parc Cenedlaethol – dilynwch arwyddion Capel Gwynfe, Twynllannan a Cross Inn. Yn Cross Inn, gallwch ddewis naill ai mynd am dro at Lyn y Fan Fach, neu aros yng Ngorsaf Fwydo’r Barcudiaid (dilynwch yr arwyddion o Cross Inn) i weld yr adar mawreddog hyn yn agos (yr amserau bwydo yw 2pm yn y gaeaf a 3pm yn yr haf). Mae’r dirwedd yn yr ardal hon gyda’r gwylltaf a mwyaf anghyfannedd yn y Parc Cenedlaethol, gyda golygfeydd anhygoel ar ddiwrnod clir. Os penderfynwch fynd am dro, cofiwch y gall y tywydd newid yn sydyn yn y mynyddoedd, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi’n iawn.

Dilynwch y ffordd B i lawr tua Myddfai ac yn Ôl i Lanymddyfri. Pentref bychan Myddfai oedd cartref Meddygon Myddfai a fu’n enwog ar draws Ewrop am eu gallu meddygol a fferyllol. Yn Ôl y chwedl, cawsai’r ffisegwyr hyn eu gwybodaeth am lysiau a phlanhigion iachaol oddi wrth “Forwyn Llyn y Fan Fach”, creadures gyfriniol a briododd â ffermwr lleol. Mae gan y Ganolfan Dreftadaeth yn Llanymddyfri wybodaeth am y chwedlau lleol hyn, yn ogystal ag arddangosfa a gwybodaeth ddiddorol am y dref a’r cylch.

www.crickhowellinfo.org.uk
www.castlewales.com/tretwr.html

www.breconbeaconstourism.co.uk/marketarea/Talybont_the_Usk_Valley/index.html

www.breconbeacons.org/visit-us/things-to-do-and-see/special-places-to-visit/monmouthshire-and-brecon-canal

www.dragonfly-cruises.co.uk
www.beaconparkboats.com/day-boat-hire.html
www.visitbrecon.com
www.breconbeaconstourism.co.uk/marketarea/Llandovery_Llandeilo/index.html
http://www.carregcennencastle.com
http://www.visit.carmarthenshire.gov.uk
http://www.breconbeacons.org/geopark/enjoying/llyn-y-fan-fach

Useful Information

Bydd y daith ddeuddydd hon yn crwydro rhannau canol a gorllewinol y Parc Cenedlaethol, ac yn cynnwys cestyll hanesyddol, golygfeydd godidog digyffwrdd a thirweddau tawel Camlas Aberhonddu a Mynwy.

Diwrnod 2: Cestyll, cychod camlas a'r barcud Statistics: 0 click throughs, 72 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community