Dilyn Llwybrau'r Porthmyn

Gan ddechrau yn Llanymddyfri, a fu unwaith yn dref bwysig i’r porthmyn – ceisiwch ddychmygu 30,000 o wartheg yn cael eu gyrru drwy’r strydoedd culion! Cyn gadael, galwch yn y Ganolfan Groeso lle mae gan y Ganolfan Dreftadaeth ar y llawr cyntaf arddangosfa fach o weithgareddau’r Porthmyn yn yr ardal ac ymwelwch â safle’r banc cyntaf “Yr Ych Du” (Banc Lloyds erbyn heddiw!).

Ewch allan o Lanymddyfri ar yr A40 i gyfeiriad Llandeilo, ond ym mhentref Ashfield trowch i’r chwith i’r A4089 i gyfeiriad Brynaman. Rydych chi nawr yn dilyn llwybr porthmyn i dref arall â chysylltiadau â’r gorffennol, ond glo y tro hwn. Ar y ffordd fe ddeuwch at bentref Pont-ar-llechau. Gallech droi am Drecastell ac ymweld â’r Drover’s Arms ger Llanddeusant. Dyma un o brif lwybrau’r porthmyn tua’r dwyrain i gyfeiriad Aberhonddu. Roedd gan lawer o’r porthmyn enw am yfed cwrw, ond gan wybod bod y porthmyn ar eu ffordd, byddai’r tafarnau’n trefnu gornestau paffio rhyngddyn nhw a ffermwyr lleol. Câi clerwyr eu denu yno hefyd gan ychwanegu at yr hwyl. Does dim dal y bydd hyn yn digwydd pan fyddwch chi acw.

Mae gan Frynaman gysylltiadau â’r Porthmyn hefyd, fel y gwelir yn y nifer fawr o enwau sy’n cynnwys y gair “pedol” a geir ar hyd y fro. Yma fe gewch chi Nant Pedol, Cwm Pedol, Bryn Pedol a llawer mwy. Saif y dref wrth droed y Mynydd Du, porth arall i’r Parc Cenedlaethol, a gallwch fod yn sicr o weld golygfa drawiadol ar bob tro.

Galwch heibio’r hen ysgol lle mae llyfrgell y dref, caffi, man gwybodaeth, arddangosiadau treftadaeth a gwaith artistiaid lleol. Ewch o Frynaman ar yr A4068 tuag at Ystalyfera lle ymunwch â’r A4067 tuag at Bontsenni. Wrth deithio drwy Gwm Tawe uchaf fe basiwch gastell Craig y Nos ac Ogofâu Dan yr Ogof.

Wedi cyrraedd Pontsenni trowch i’r A40 i’r dwyrain tuag Aberhonddu lle cewch ddigonedd o lefydd i fwyta ac ymlacio. Ewch am dro i’r Eglwys Gadeiriol a adeiladwyd yn y 12fed ganrif neu cerddwch ar hyd y gamlas o’r basn wrth y Theatr. Mae amgueddfa’r dref yn y canol, ac Amgueddfa Filwrol Cyffinwyr De Cymru ar gyrion y dref, ill dwy’n werth ymweliad.

Ar Ôl cinio, teithiwch i dref brydferth y Gelli Gandryll, gan ddilyn yr A470 allan o Aberhonddu ac wedyn yr A438 cyn belled â Chleirwy. Cewch gyfle yma i ymweld â’r eglwys lle bu Kilvert yn gurad ac mae ei ddyddiadur o’i gyfnod yma’n werth ei ddarllen. Tref lyfrau yw’r Gelli Gandryll hefyd, felly cymerwch amser yma i grwydro, efallai i brynu’r llyfr yna sydd wedi cymryd eich bryd, neu ddim ond ymlacio gyda chwpanaid o de a chacen gri yn un o’r caffis niferus. Fel Llanymddyfri, mae gan y Gelli Gandryll ddigonedd o lefydd sy’n cynnig llety.

Gwefannau:
www.visit.carmarthenshire.gov.uk
www.brynaman.org.uk
www.breconbeaconstourism.co.uk/marketarea/The_Upper_Swansea_Valley/index.html
www.visitbrecon.com
www.hay-on-wye.com

Useful Information

Dilyn Llwybrau'r Porthmyn Statistics: 0 click throughs, 95 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community