Mae 763 cilometr sgwâr (300 milltir sgwâr) Geobarc y Fforest Fawr wediu lleoli yn rhan orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cymer ei enw gan yr ardal ucheldir yn ei ganol, syn adnabyddus ers canrifoedd fel y Fforest Fawr. Mae mwy na chreigiau ir Geobarciau, serch hynny; mae pobl yn bwysig iddynt hefyd. Maen nhwn dathlu chwedlau lleol, diwylliant, archaeoleg, ac yn edrych ar y modd y mae dyn wedi ffurfior tirlun diwylliannol a welwn ni heddiw.
Bydd ein taith drwyr wlad ddaearegol ryfeddol hon yn dechrau o Landeilo. Cymerwch ffordd yr A438 tuar de, croeswch y bont dros afon Tywi a dilynwch arwyddion Bethlehem (ydych, rydych chi yn y wlad iawn ond rydych chin fwy tebygol o weld y Barcud yn hedfan fry uwchben yn hytrach nag Angylion
.). Trowch ir dde ar Ôl y swyddfa bost gan ddilyn arwydd Y Garn Goch. Dilynwch y ffordd gul i fyny at ddarn o dir agored lle gwelwch olion a rhagfuriau dwy fryngaer o Oes yr Haearn Y Gaer Fawr ar Gaer Fach. Gadewch y car a cherdded y pellter byr at y ddwy gaer a mwynhewch yr olygfa banoramig 360 gradd. Cerfluniwyd y tir o gwmpas y fan hon gan rewlifau ac maer creigiaun dyddion Ôl oddeutu 470 miliwn o flynyddoedd (y cyfnod Ordofigaidd). Dyna beth ydy hen!
Ewch yn Ôl y ffordd y daethoch ac ar y gyffordd T trowch ir dde i Rydsaint i ymuno âr A4069. Os trowch ir chwith ar y gyffordd, cyn hir fe gyrhaeddwch chi Geunant Sawdde ceunant afon syn torri trwyr creigiau Silwraidd ac Ordofigaidd serth gan ddangos olyniaeth o fathau craig yng ngwelyr afon ai hochrau. Mae modd gweld y Ceunant o ochr y ffordd, ond mae yno faes parcio a mynediad am ddim.
Os penderfynwch droi ir dde ar gyffordd yr A4069, ar Ôl milltir neu ddwy trowch ir chwith i gyfeiriad Llanddeusant. Dilynwch y ffordd i weundir agored nes cyrraedd cronfa ddŵr Llyn Wysg lle gallwch fwynhau cerdded y glannau ar llwybrau trwy Goedwig Glasfynydd oi hamgylch. Yma arweiniodd ymchwil dyn am gyflenwadau dŵr at adeiladur gronfa, a agorwyd yn swyddogol ym 1955 gan y Frenhines Elizabeth II. Maen cynnwys 2700 miliwn o alwyni ac yn cyflenwi dŵr i Abertawe.
Edrychwch yn fanwl ar eich Map OS ac fe welwch lawer o dystiolaeth o bresenoldeb y Rhufeiniaid yn yr ardal hon - e.e. Ffordd Rufeinig a sawl Gwersyll Rhufeinig. Y mwyaf arwyddocaol ac, yn ei ddydd, y mwyaf strategol o ran ei safle, yw Y Pigwn (na ellir ond ei gyrraedd ar droed). Maen anodd dychmygu sŵn milwyr yn gorymdeithio yn y lle anghyfannedd hwn ond ar brydiau byddai hyd at 10,000 o bebyll wediu codi yma i gartrefur llengfilwyr wrth iddyn nhw fynd yn Ôl a blaen or Gaer yn Aberhonddu.
Or llyn, ewch i gyfeiriad Trecastell. Unwaith y byddwch chi wedi croesi pont fechan ac ychydig cyn cyrraedd Portis, cymerwch y troad nesaf ir dde am Aber-craf. DS: Os pasiwch y gwaith dŵr ar y dde ichi, ewch yn Ôl ychydig i gymryd y tro. Ewch i fynyr rhiw drwyr un Goedwig Glasfynydd ac ir gweundir eto i weld golygfeydd MAWR! Gobeithioch bod chi wedi cofior camera
.
Maen debyg mai dyma ardal wylltaf a mwyaf anghysbell y Parc Cenedlaethol y Mynydd Du, yn sefyll dan broffil cryf a digymar Bannau Sir Gâr a Fan Brycheiniog. Gwirioneddol aruthrol!
Ond cofiwch gadw amser ar gyfer uchafbwynt y diwrnod: Ardal y Rhaeadrau, neu Wlad y Sgydau fel yi gelwir yn lleol. Trwy gyfres o ddyffrynnoedd coediog lle llifa afonydd Mellte, Hepste, Nedd Fechan a Phryddin fe welwch ffurfiannau craig cywrain, afonydd diflannol, systemau ogofâu hynod a phrydferthwch naturiol och cwmpas ym mhob man.
I gyrraedd Canolfan y Rhaeadrau: Ymunwch âr A4087 (i gyfeiriad Ystradgynlais). Cymerwch yr A4221 yn Aber-craf am Bontneddfechan. Maen bwysig mynd ir Ganolfan cyn dechrau cerdded y Sgydau. Yma rhoddir esboniad difyr am hanfod y Geobarc syn help ichi werthfawrogi arwyddocâd daearegol yr ardal rydych chi wedi gyrru drwyddi ar modd y mae dyn, dros filoedd o flynyddoedd, wedi manteisio ar yr adnoddau naturiol sydd ar gael iddo - hyd yn oed i wneud Powdwr Du!
Rock on!
Ewch yn Ôl i Landeilo drwy Aber-craf (A4109 - A4221 - A4067 - A4068) gan ddilyn cyfeiriad Abertawe i ddechrau nes dechreuwch weld arwyddion i Frynaman. Gyrrwch drwyr dref a dilyn arwyddion Rhydaman A474. Cyn hir fe welwch arwyddion i Landeilo.
www.fforestfawrgeopark.org.uk
http://www.breconbeaconstourism.co.uk/marketarea/Llandovery_Llandeilo/index.html
W4U[http://www.breconbeacons.org/geopark/enjoying/llyn-y-fan-fach|http://www.breconbeacons.org/geopark/enjoying/llyn-y-fan-fach(class=link>www.visit.carmarthenshire.gov.uk
www.breconbeacons.org/visit-us/information-centres-new/waterfalls-centre-pontneddfechan
Useful Information
Rhufeiniaid, Afonydd, a hen, hen Greigiau Statistics: 0 click throughs, 52 views since start of 2025