Crwydro'r Wlad Deg

Gan fy mod i’n aros yn yr ardal a bod gen i ddiwrnod rhydd, a minnau wedi darllen “Rape of the Fair Country” a “This Proud and Savage Land”, y ddau lyfr a gysylltir â Safle Treftadaeth Byd Blaenafon, mi benderfynais grwydro’r llefydd sy’n gefndir i’r nofelau. Cychwynnais o’r Fenni ar hyd yr A465 tua’r gorllewin nes cyrraedd y troad i bentref Clydach. Wedi parcio’r car ar waelod y Cwm (arwyddion clir) cerddais i safle’r hen waith haearn. Ai yma y ceisiodd rhywun ladd Hywel Mortimer drwy ei wthio i’r ffwrnais? Crwydrais ar hyd yr hen dramffyrdd ac i fyny i’r pentref: tipyn o waith dringo ond roedd yn werth yr ymdrech. Mae’r bythynnod carreg yn hardd ac mae’n anodd dychmygu y buasai’r ffwrneisi erstalwm yn chwydu mwg drostyn nhw.

Yn Ôl yn y car, es i gyfeiriad y Fenni cyn troi i gyfeiriad Llan-ffwyst. Roedd yn gyfle i ymweld â’r lanfa lle’r aeth y teulu Mortimer ar y bad am Gasnewydd. Wedi parcio’r car ar y cyrion cerddais i mewn i’r fynwent i weld bedd Crawshay Bailey a oedd wedi rhoi benthyg Hywel Mortimer i Efail Garnddyrus. Ar y lanfa wrth edrych i fyny drwy’r coed gallwn weld llwybr yr inclên i lawr Mynydd Blorens, yr oedd y teulu Mortimer wedi rhuthro hyd-ddi i gyrraedd y lanfa. Es am dro ar ei hyd a gwelais yr olygfa a welsent hwy, ehangder prydferth Dyffryn Wysg a’r afon ei hun lle cwrddodd Iestyn â Mari Dirion.

Yn Ôl a mi i gymryd y ffordd i Flaenafon (B4246) i fyny’r hyn a elwir yn “Fiddler’s Elbow”. Wrth fynd heibio’r Cordell Country Inn (wedi cau bellach, ysywaeth) gwelwn olion Efail Garnddyrus ar y dde. Gyda digon o le i barcio a digon o amser i fynd am un dro bach arall, dilynais dramffordd i chwareli’r Pwll Du ar ochr arall y cwm. Gan ei bod bron yn amser cinio, ymlaen i Flaenafon a chinio yn y Caffi Treftadaeth ynghlwm wrth y Ganolfan Groeso. Wedyn mi ddarllenais y byrddau arddangos am sbel a gwylio’r ffilmiau addysgiadol am hanes yr ardal. Ar Ôl cael sgwrs gyda’r staff croesawgar yn y ganolfan ymlwybrais tua’r eglwys (lle priododd Iestyn a Mari) ac wedyn es am dro o gwmpas y dref. Cerddais i fyny North Street tua’r gwaith haearn. Roedd digon i fyfyrio amdano: i lawr yr heol hon y cerddai’r Teirw Scotch, yma ar y chwith y safai Shepherds Square, draw ar y dde mae safle’r Drum and Monkey lle crogwyd trwser Polly ag enw Iestyn Mortimer wedi’i ysgrifennu uwch ei ben. Troais i mewn i’r gwaith haearn a chanfod curaduron parod i helpu a mynediad am ddim. Gyda map o’r safle yn fy llaw pasiodd awr heibio’n gyflym cyn imi ymweld â’r bythynnod lle ffilmiwyd y gyfres “Coal House”.

Wedi gadael y gwaith haearn, cerddais i lawr King Street a thua’r gwaelod sylwais ar dŷ Isaac Hayward, yr enwyd Oriel Hayward ar ei Ôl. Ar un o’r bythynnod ar y chwith mae plac i’n hatgoffa mai hon oedd “Heol Hist Tewi”, y cerddodd Iestyn a’i dad ar hyd-ddi’n Ôl o Garnddyrus. I lawr yr heol fawr, a elwir bellach yn Broad Street , mae llawer o’r adeiladau wedi’u hadnewyddu ac mae amryw o siopau hyfryd sy’n werth ymweld â nhw: Yr Oriel, Chocs Away, Cwmni Caws Blaenafon, siop lyfrau Browning’s a llawer mwy. Gwnes amser i ymweld ag Amgueddfa Cordell cyn dychwelyd i’r car. Ro’n i wedi cael diwrnod i’r brenin, buasai tywysydd lleol wedi gwneud byd o wahaniaeth i’m hymweliad, ond rhywbeth i’r tro nesaf yw hynny.

Gwefannau:
www.world-heritage-blaenavon.org.uk/en/WorldHeritageSite/WorldHeritageSite.aspx


www.theheritagetrail.co.uk/industrial/blaenavon%20ironworks.htm


W4U[
http://www.breconbeaconstourism.co.uk/marketarea/Abergavenny/index.html|
www.breconbeaconstourism.co.uk/marketarea/Abergavenny/index.html(class="link")]

Useful Information

Crwydro'r Wlad Deg Statistics: 0 click throughs, 68 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community