The Welsh Pig Co

Mae Ian a Rachel Williams yn rhedeg The Welsh Pig Co o'u cartref, Little Castle Farm, yng nghalon Sir Fynwy.

Mae Ian a Rachel Williams yn rhedeg The Welsh Pig Co o’u cartref, Little Castle Farm, yng nghalon Sir Fynwy. Nid ydym yn ychwanegu unrhyw ddŵr, gwrthfiotigion, hyrwyddwyr tyfiant na lliwiau artiffisial at ein cynnyrch. Credwn mai sicrhau bod lles ein hanifeiliaid yn rhagorol yw’r ffordd orau o sicrhau blas arbennig e thynerwch. Rydym yn magu’r moch mewn padogau agored gan eu bod yw dorwyr porfa naturiol a gan mai dyma sut maen nhw’n mynd i ddatblygu blas rhagorol.

Ein prif nod yw cynhyrchu porc, selsig, bacwn a gamwn sy’n blasu’n wych. Er mwyn i ni wneud hyn, rydym eisiau ffermio mewn ffordd sy’n “anrhydeddu’r anifail”, ac rydym hefyd am anrhydeddu ein treftadaeth amaethyddol, ddiwylliannol a theuluol; yn enwedig gan ein bod yn credu bod yr holl elfennau hyn yn creu rhywbeth cofiadwy i’w fwyta dro ar Ôl tro.

Trwy ddiffiniad, y ffordd orau o anrhydeddu’r bwystfil yw cael system arbennig i fagu ein moch fel eu bod yn rhydd i grwydro, ac mae hyn hefyd yn golygu cadw brid mochyn sy’n ffynnu yn yr awyr agored. Felly, mae gennym y moch Cymreig a moch cyfrwyog sy’n pori ac yn twrio hyd yn oed yng nghefn gwlad Sir Fynwy, mewn glaw, gwynt a hindda. Yn naturiol, mae gennym eirch er mwyn i’r moch gysgodi oddi tanynt os ydynt yn dymuno gwneud hynny, ac ar gyfer y gaeaf. Rydym yn hoffi geni ein moch bach dan do ble mae yna ddigon o le a digon o wellt. Trosglwyddwyd y system hon o genhedlaeth i genhedlaeth, ac mae’n cael ei gweld fel synnwyr cyffredin. “Gadael i foch traddodiadol wneud beth mae moch am ei wneud”.

Wedi magu mochyn “hapus” mewn ffordd araf a hamddenol, o’r dechrau i’r diwedd, mae’n gwneud synnwyr ein bod am barhau i barchu’r cig. Felly, pan fyddwn ni’n gwneud ein selsig, rydym yn defnyddio rhysgenni a sesnin o ansawdd uchel. Mae’n werth cofio pam yr ydym yn ychwanegu rhysgenni hefyd. Mae yna ychydig mwy o fraster ar borc bridiau prin na phorc arall, ac mae’r rhysgenni yn ei amsugno wrth i’r selsig goginio. Dyna pam mae’n suddlon ac yn flasus. Mae'r traddodiad o sych-halltu yn parhau.

Mae’r Welsh Pig Company yn cadw moch, blas a threftadaeth cannoedd o flynyddoedd yn fyw. Rydym yn bodoli ar gyfer y gwerthoedd tragwyddol a ddefnyddir wrth ofalu am ein moch, i anrhydeddu ein traddodiad ffermio, parchu’r cig y maen nhw’n ei gynhyrchu a’r pleser y mae’n ei rhoi i’n cwsmeriaid. Rydym yn gwybod eich bod yn gallu blasu brid a bywyd ein moch ar y plât, ac rydym hefyd yn hoffi credu ei fod yn ennyn blas ar y dirwedd a’r cenedlaethau o Gymry sydd wedi gweithio yn yr awyr agored yng nghefn gwlad hardd ac agored Sir Fynwy.

Ar hyn o bryd, mae The Welsh Pig Company yn gwerthu mewn sioeau a marchnadoedd ffermwyr lleol. Maen nhw hefyd yn darparu cig ar gyfer nifer o westai a Gwelyau a Brecwast fel y Wilton Court Hotel yn y Rhosan ar Wy a Park Guest House yn Y Fenni.

Useful Information

The Welsh Pig Co

Owner/Manager: Ian and Rachel Williams

Little Castle Farm Raglan Monmouthshire NP15 2BX Wales
phone: 01291 691044 fax:

News & Special Offers

The Welsh Pig Co serves

Opening Times

The Welsh Pig Co Statistics: 0 click throughs, 277 views since start of 2024

© copyright 2024 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community