Mae Fferm Madgett yn magu dofednod o ansawdd eithriadol uchel ar fferm mewn lleoliad gwych syn edrych allan dros Ddyffryn Gwy. Mae hanes hir iawn yn perthyn ir fferm, ac mae cyfeiriad ato yn Llyfr Dydd y Farn. Yn fwy diweddar, maer teulu Williams wedi ffermio yma am dros 42 mlynedd, yn godro gyrr o wartheg llaeth ac yn magu gwartheg bîff. Roedd mam-gu Daryn bob amser wedi magu rhywfaint o wyddau a thyrcwn ar gyfer y Nadolig, au rhoi i deulu a chyfeillion. Roedd yr adar yn flasus, ac aeth si ar led amdanynt. Yn raddol, cynyddodd nifer yr adar bob blwyddyn, hyd nes yn 2001 i Daryn ai wraig Elaine benderfynu sefydlu busnes dofednod trwy gydol y flwyddyn.
Rydym yn credu mewn rhagoriaeth ar unig ffordd o gyflawni hyn yw rheoli pob agwedd ar y broses o gynhyrchu. Rydym yn tyfur rhan fwyaf on bwyd porthi ac yn prosesu pob un on hadar ar y fferm. Ein system pluo cwyr sych yw un o ddim ond tri yn y wlad, ac rydym yn gorffen pob un on hadar â llaw. Rydym yn credu mai dymar unig ffordd o gyflenwi adar or safon a fynnir gan ein cwsmeriaid.
Rydym yn magu cywion ieir gwyn Cobb buarth, hwyaid Aylesbury Peking, tyrcwn gwyn ar tyrcwn Bronze eithriadol ar gyfer y Nadolig, ynghyd â gwyddau. Rydym yn bwydor holl adar ân cyfuniad arbennig ein hunain o fwyd porthi cartref nad ywn cynnwys ychwanegion na GM.
Gallwch brynu ein dofednod ar-lein ar website link, ac mae nawr yn bosibl i ni ddanfon blychau on dofednod â negeswyr. Rydym yn mynychu marchnadoedd ffermwyr yn Stroud, Cirencester, Cheltenham, Gloucester a Chaerdydd. Mae croeso hefyd i gwsmeriaid ddod ir fferm i gasglu eu cynnyrch.
Useful Information
Owner/Manager: Daryn and Elaine Williams
News & Special Offers
Madgett's Farm serves
Opening Times
Madgett's Farm Statistics: 2 click throughs, 88 views since start of 2025