Mae John a Margaret wedi bod yn gwneud sudd afal ers blwyddyn neu ddwy erbyn hyn. Yn ogystal âu fferm deuluol, maen nhwn arbenigo mewn sudd afal lleol, organig gydag afalau o berllannaur teulu, rhai ohonynt a blannwyd gan dad-cu John yn yr 1920au. Maen nhwn ymfalchïo eu bod yn gwasgu afalau o ansawdd, y rhan fwyaf yn fathau prin, or goeden ir botel o fewn 24 awr, gan grynhoir ffresni ar blas dwys. Yn ogystal âr sudd organig amrywogaeth sengl mae cyfran fechan o sudd yn cael ei wneud allan o afalau o berllannau lleol syn cael eu tyfun naturiol heb ddefnyddio chwynladdwyr na phlaladdwyr. Mae gan y sudd hwn label gwahanol ac mae hyn yn creu ffordd gynaliadwy o ddefnyddior afalau o berllannau bychain allai fel arall gael eu gadael i bydru.
Mae John a Margaret yn cynnig tua 30 o fathau gwahanol o sudd afal amrywogaeth sengl, er enghraifft Tom Putt, Grenadier a Monmouth Green syn cynhyrchu blasau gwahanol o sudd afal syn golygu y gallant gynhyrchu dewis llawn o sudd syn amrywio o sych i felys. Maen nhw hefyd yn cynhyrchu cymysgedd organig o sudd afal lled felys syn boblogaidd iawn gyda thafarnau a bwytai.
Ar gael o:
Abergavenny a Bro:
For the Love of Cake, 01873 850009
Deli Delicious, 01873 850022
Tithe Barn Food Hall, 01873 858787
Skirrid Garage, Llanvihangel Crucorney 01873 890275
ac amryw o fwytyoedd a thafarndai er engrhaifft: The Walnut Tree Inn, Restaurant 1861, The Hardwick, LLansantffread Court Hotel, The King of Prussia, Llanwenarth Arms Hotel, The Angel Hotel
Crickhowell:
Grenfells, Cashells, Jehus, No. 18, Courtroom Café, Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crickhowell.
Mae llawer o fwytai lleol yn ei ddefnyddio yn eu bwydlenni brecwast neu yn y bar e.e. The Gliffaes, The Rectory, The Dragons Head yn Llangenny
Aberhonddu:
Beacons Craft, Marchnad Ffermwyr Aberhonddu (ail Sadwrn o bob mis)
Tower Café yn Aberhonddu, Llys Peterstone
Maschnad Ffermwyr Wysg, dydd sadwrn cyntaf pob mis
Ar gael drwy'r flwyddyn
Useful Information
Owner/Manager: John a Margaret Morris
News & Special Offers
Welsh Farm House Apple Juice serves
Opening Times
Welsh Farm House Apple Juice Statistics: 0 click throughs, 107 views since start of 2025