Mae ein fferm, Tŷ Mawr (Great House) yn gorwedd rhwng Y Fenni a Raglan yn ardal odidog Dyffryn Gwy, Sir Fynwy. Maer pridd trwm yn enwog am ddal lleithder, ac maen cynnig amodau tyfu delfrydol ar gyfer llysiau organig.
Daeth Fferm Tŷ Mawr yn hollol organig ar Ebrill 1af, 2001 ar Ôl cwblhau cyfnod addasu o ddwy flynedd, cyn cael eu hardystio gan Gymdeithas y Pridd.
Mae Philip a Josie Bevan au pedwar mab yn rhedeg y fferm sefydledig sydd erbyn hyn yn ei chweched flwyddyn. Tyfir dros ddeugain o wahanol lysiau organig tymhorol yn Nhŷ Mawr. Rydym bob amser yn barod i roi cynnig ar dyfu pethau newydd; mae hyn yn ein galluogi i sicrhau dewis o lysiau syn amrywiol ac yn aml yn unigryw, in cwsmeriaid drwy gydol y flwyddyn.
Ar gael o:
Y Fferm: Gwener 3yh-6yh (neu wedi ei archebu); ffon: 01873 840796
Wedi ei drosgludo gan y fferm atoch chi (galwch y fferm am fanylion pellach)
Marchnadoedd Ffermwyr: Abergavenny, Aberhonddu, Caerphilly, Caerdydd, Y Bont Faen, Trefynwy, Newport, Penarth, Port Talbot ac Usk.
Ar gael: Drwy'r flwyddyn (Tymhorol)
Useful Information
Owner/Manager: Philip a Josie Bevan
News & Special Offers
Ty Mawr serves
Opening Times
- Mae'r Fferm yn agored i'r cyhoedd ar Ddydd Gwener, 3yh-6yh
Ty Mawr Statistics: 0 click throughs, 80 views since start of 2025