Ty Bryn Cider

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae seidr a pherai Tŷ Bryn wedi ennill nifer o wobrau yn cynnwys tair gwobr aur o'r bron ym Mhencampwriaethau seidr potel melys Cymru.

Mae Upper House Farm yng Ngogledd Ddwyrain Sir Fynwy ac mae’n fferm sy’n cael ei rhedeg gan drydedd genhedlaeth yr un teulu,

Cynhyrchir y seidr allan o afalau sy’n cael eu tyfu yn eu perllannau pori traddodiadol eu hunain. Mae’r sudd, o sawl math o afalau, rhai fel ‘Tom Putt’ a rhai mathau mwy modern fel Dabinett, yn cael ei wasgu ar y fferm, lle y mae’n cael ei aeddfedu mewn bareli derw traddodiadol. Mae’r rhain yn cael eu storio mewn seler garreg a godwyd ar gyfer storio seidr yn Ôl yn yr 1700oedd.

Mae’r perchnogion yn mwynhau cynhyrchu amrywiaeth o ddiodydd peri a seidr, yn llonydd a phefriog, at ddant pawb. Maen nhw hefyd yn darparu gwasanaeth gwasgu fel y gall pobl eraill wneud eu peri, seidr a sudd eu hunain.

Ar gael o:

N S James ai Fab Cigydd, Raglan, 01291 690675

Amryw o Wyliau Seidr (Cymdeithas Seidr a Perri Cymraeg) a sioeau lleol

Ar gael: Drwy'r flwyddyn

Useful Information

Ty Bryn Cider

Owner/Manager: Joanna a Tony Watkins

Ffermdy Uchaf Grysmwnt, Y Fenni Monmouthshire NP7 8LA Wales
phone: 01873 821237 fax:

News & Special Offers

Ty Bryn Cider serves

Opening Times

Ty Bryn Cider Statistics: 0 click throughs, 138 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community