Trealy Farm

Yn Trealy Farm rydym yn ymfalchïo yn ein charcuterie unigryw, gwreiddiol a hynod flasus ar gyfer safleoedd manwerthu a chyfanwerthu yn Sir Fynwy a ledled y DU.

Yma yn Fferm Trealy rydym yn ymfalchïo yn y cynnyrch charcuterie unigryw, traddodiadol a blasus yr ydym yn ei ddarparu i allfeydd adwerthu a chyfanwerthu yn Sir Fynwy a ledled y DU. Rydym yn cyfuno dulliau traddodiadol o halltu, cochi ac aeddfedu, drwy ddyfeisiadau a thechnoleg a ysbrydolwyd gan wneuthurwyr charcuterie ledled Ewrop. Rydym yn fusnes bach, teuluol sy’n defnyddio moch o Fferm Trealy neu ffermydd eraill sy’n lleol.

Maent oll yn cael eu magu’n draddodiadol; yn bennaf Gloucester Old Spot, Cymreig a Chyfrwyog, sy’n crwydro’n rhydd ac yn bwyta diet naturiol. Mae ein cynnyrch yn cynnwys amrywiaeth o Salamis, Chorizos, Ham Awyr Sych, Lomos, Pancetta, Cig Moch Hallt, Selsig Brydeinig a Chyfandirol. Er mai dyma’r ail flwyddyn yn unig ers i ni ddechrau cynhyrchu, rydym eisoes wedi ennill gwobr Gwir Flas, ac yn parhau i fwynhau cyflenwi rhai o’r allfeydd bwyd gorau yn y DU.

Ar gael o:

Mae'n bosib archebu Charcuterie Fferm Trealy yn uniongyrchol o'r fferm (archeb o leiaf £50 drwy'r post os gwelwch yn dda) neu y gallwn drefnu trosglud lleol (am ddim o fewn 5 milltir).

Marchnadoedd Ffermwyr: Trefynwy, Wysg, Riverside Caerdydd, Bristol slow Food market

Canolfan Fwydydd Ludlow, Ludlow

Siop Fferm Parc Neston, Atworth, nr Bath 01225 700 055

Truffles Delicatessen, Ross on Wye 01989 762335

Jolly's of Goodrich, Goodrich 01600 980352

Spar, Usk 01291 673929

Am fanylion pellach o allfeydd masnachol ac unrhyw ymholiadau cyfanwerthu,
cysylltwch a Fferm Trealy.

Ar gael: Drwy'r flwyddyn

Useful Information

Trealy Farm

Owner/Manager: James Swift a Graham Waddington

Mitchel Troy Monmouthshire NP25 4BL Wales
phone: 01600 740705 fax:

News & Special Offers

Trealy Farm serves

Opening Times

Trealy Farm Statistics: 8 click throughs, 91 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community